Dan Perkin
Tiwtor Sgiliau Addysgu ac Allgymorth
Rôl y swydd: Tiwtor Fiol
Adran: Llinynnau
Anrhydeddau: BA, PhD
Mae gan Lucy Robinson angerdd am berfformio cerddoriaeth Baróc ar offerynnau hanesyddol gywir, nid yn unig gan astudio technegau’r cyfnod ond hefyd archwilio amgylchedd cyfansoddi’r gerddoriaeth – hyd yn oed yr hyn roedd y cerddorion yn ei ddarllen a’i fwyta. At y diben hwn, astudiodd yn Efrog (BA), Caergrawnt (PhD dan y teitl The Forquerays and the French Viol Tradition) a'r Brussels Conservatoire, lle y dyfarnwyd Cymrodoriaeth Deithio Churchill iddi astudio gyda Wieland Kuijken. Ers hynny, mae Lucy wedi perfformio mewn lleoliadau o Wigmore Hall i Fez i Sydney Opera House. Ar y cyd ag Andrew Wilson-Dickson, mae’n cynnal Marnaves Summer Baroque, ysgol haf i’r llinynnau yn Ffrainc, sydd â phwyslais hefyd ar lesiant y perfformwyr.
Mae gan Lucy enw da yn rhyngwladol am ei hymchwil i gerddoriaeth Baroc, yn arbennig y fiol a cherddoriaeth Ffrainc. Cyhoeddodd argraffiadau o Bach (Faber) a Couperin (Heugel), a thros 15 o erthyglau (gan gynnwys ‘Viol’) yn The New Grove Dictionary of Music and Musicians a The Cambridge Encyclopedia of Historical Performance in Music.
Ar ôl 12 mlynedd fel Pennaeth Astudiaethau ac Ymchwil Ôl-raddedig yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a chydag anogaeth ei myfyrwyr, aeth Lucy ati i edrych ar ddiwylliant o safbwynt newydd gan gyhoeddi llyfr coginio, The Grain-free Vegetarian – ac mae cyfeiriadau cerddorol yn treiddio drwy’r cyhoeddiad hwn hefyd.