Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Ceri Tippets

Rôl y swydd: Tiwtor Cyfansoddi gyda Thechnoleg Cerddoriaeth Greadigol

Adran: Cyfansoddi a Thechnoleg Cerddoriaeth Greadigol

Anrhydeddau: FHEA, MMus RWCMD, BMus CBCDC Cyfansoddi gyda Thechnoleg Cerddoriaeth Greadigol

Bywgraffiad Byr

Dechreuodd Ceri Tippetts ar ei gyrfa gerddorol drwy hyfforddi i fod yn ddrymiwr ac yn offerynnwr taro. Yn 2001, ymunodd â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru fel myfyriwr Technoleg Cerddoriaeth Greadigol, gan raddio â BMus (Anrh) yn 2005 ac MMus yn 2007.

Arbenigedd

Dechreuodd Ceri ar ei gyrfa broffesiynol yn y coleg, fel tiwtor Technoleg Cerddoriaeth Greadigol i gychwyn, ond yn fuan daeth i ymwneud hefyd ag Ymarferyddiaeth Allgymorth ar ran y coleg ac ar gyfer sefydliadau celfyddydol ledled Cymru. Erbyn hyn, mae’n addysgu Ymarferyddiaeth Allgymorth a sgiliau addysgu yn helaeth ar lefel israddedig ac ôl-raddedig, gan ganolbwyntio ar ddatblygu ymarfer unigol pob myfyriwr.

Yn ogystal â darparu hyfforddiant arbenigol mewn technoleg cerddoriaeth greadigol, lle mae ei harbenigedd yn cynnwys theori ac ymarfer sbectromorffoleg, a myfyrio beirniadol ar ymarfer creadigol.

Fel aelod o fwrdd Soundsense, mae Ceri yn ymwneud â’r gwaith o hyrwyddo a datblygu cyfleoedd i ddatblygu ymarfer ar gyfer cerddorion cymunedol yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig.

Mae Ceri yn arbenigydd mewn ymarfer dysgu ac addysgu ac mae’n neilltuo llawer o’i hamser i ymchwilio i dueddiadau a datblygiadau cyfredol. Fel ymarferydd niwroamrywiol, mae ganddi angerdd at ymarfer cynhwysol a chofleidio niwroamrywiaeth yn y diwydiannau creadigol.

Cyflawniadau Nodedig

Mae Ceri yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch.

Proffiliau staff eraill