Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Ryan Elliot

Rôl y swydd: Technegydd Stiwdio a Thiwtor

Adran: Cyfansoddi a Thechnoleg Cerddoriaeth Greadigol

Anrhydeddau: MMus Cyfansoddi Cerddoriaeth, CBCDC TAR (Cerddoriaeth), Prifysgol Metropolitan Caerdydd; BMus Perfformio Cerddoriaeth Proffesiynol, Academy of Contemporary Music, Guildford

Gweld eu gwaith:

Bywgraffiad

Gitarydd a chyfansoddwr o Gymru yw Ryan sydd wedi bod yn gysylltiedig â phrosiectau a hunan arweinir a chydweithredol sydd wedi gwerthu recordiau’n rhyngwladol. Mae wedi perfformio’n helaeth, gan gynnwys Gŵyl y Cofio Neuadd Dewi Sant, Opera Dubai a Gŵyl Roc Caergrawnt.

Fel cyfansoddwr, mae Ryan wedi creu gweithiau electronig gan ddefnyddio recordiadau maes a syntheseisyddion modwlar, gweithiau siambr gan gynnwys comisiynau gan Tŷ Cerdd a cherddoriaeth ar gyfer cyfryngau sy’n cynnwys seremoni wobrwyo Chwaraeon Anabledd Cymru a’r llyfr poblogaidd i blant, Bottled. Mae Ryan hefyd yn treulio amser yn cydweithio ag artistiaid eraill fel cynhyrchydd cerddoriaeth a pheiriannydd cymysgu.

Dechreuodd Ryan ei yrfa gerddorol fel gitarydd perfformio a graddiodd o’r Academy of Contemporary Music yn 2014 gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Perfformio Cerddoriaeth Proffesiynol. O 2016 bu Ryan yn addysgu cerddoriaeth mewn ysgol gynradd ac uwchradd yn Dubai, cyn ennill ei radd meistr gyda rhagoriaeth yn CBCDC yn 2022. Ar ôl graddio, ymunodd Ryan â’r adran gyfansoddi fel technegydd stiwdio a thiwtor ym maes technoleg cerddoriaeth greadigol.

Arbenigedd

Mae Ryan yn diwtor technoleg cerddoriaeth greadigol gyda phrofiad helaeth mewn technolegau recordio, cynhyrchu cerddoriaeth, rheoli prosiectau a pherfformio byw. Mae Ryan yn angerddol dros helpu myfyrwyr i gyflawni eu nodau creadigol a’u galluogi i ddod â’u syniadau cerddorol yn fyw.

Cyflawniadau Nodedig

Ar ddiwedd 2022 rhyddhaodd Ryan ei albwm unigol ‘Head Above Water’. Mae ei gerddoriaeth wedi’i gwerthu’n rhyngwladol ac wedi cael sylw ar orsafoedd radio megis Exile FM.

Proffiliau staff eraill