Sally MacTaggart
Aml-offeryn (Chwythbrennau)
Mae Tic Ashfield-Fox yn gyfansoddwr a dylunydd sain sydd wedi ennill gwobr BAFTA Cymru. Mae’n byw yn ne Cymru ac astudiodd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Enillodd Tic radd dosbarth 1af mewn Technoleg Cerdd Greadigol yn 2013 cyn ennill gradd Meistr gyda rhagoriaeth mewn cyfansoddi yn 2016, gyda chefnogaeth ysgoloriaeth Tywysog Cymru.
Yn ogystal â bod yn gyfansoddwr ar gyfer teledu, ffilm a theatr yn ei rhinwedd ei hun, mae Tic hefyd yn aelod o’r tîm creadigol yn John Hardy Music. Fel arweinydd gweithdy a cherddor cymunedol, arweiniodd Tic weithdai cerddoriaeth ar gyfer cwmnïau fel Opera Cenedlaethol Cymru a Winding Snake Productions, gan weithio gyda phobl ifanc o oed ysgol iau i fyfyrwyr chweched dosbarth. Ymunodd â’r staff addysgu yn CBCDC yn 2017.
Fel cyfansoddwr a dylunydd sain, mae’n canolbwyntio ar ddefnyddio cyfuniad o drin a samplu sain wedi’i ganfod, synthesis a chyfansoddi offerynnol i greu bydoedd sain pwrpasol, a hynny’n aml mewn sefyllfaoedd o gydweithio. Mae Tic yn chwarae’r clarinét, y gitâr a’r gitâr fas, ac yn canu, ac mae’n aml yn ymgorffori’r rhain yn eu cerddoriaeth.
Mae ei gwaith teledu nodedig yn cynnwys y gyfres ddrama The Light in The Hall | Y Golau ar gyfer Channel 4 ac S4C yn ogystal â’r ddrama drosedd Gymreig Hinterland | Y Gwyll gyda John Hardy Music. Gwnaeth Tic hefyd gyd-gyfansoddi’r gerddoriaeth ar gyfer cyfres ddrama Hidden | Craith ar gyfer BBC One Wales BBC Four. Gweithiodd yn helaeth gyda chwmnïau theatr fel National Theatre Wales a The Other Room Theatre, ac mae ei cherddoriaeth i’r theatr wedi’i chlywed mewn lleoliadau fel The Royal Court, Canolfan Mileniwm Cymru a’r National Theatre. Mae hefyd wedi ysgrifennu’n helaeth ar gyfer dawns gan weithio gyda chwmnïau fel Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Ballet Cymru.