Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Owen Gunnell

Rôl y swydd: Tiwtor Siambr Offerynnau Taro

Adran: Offerynnau taro

Bywgraffiad Byr

Graddiodd Owen o’r Coleg Cerdd Brenhinol yn 2003, gyda gradd dosbarth 1af er anrhydedd, wedyn, gyda’i ddeuawd, O Duo, cwblhaodd gymrodoriaeth iau yno yn 2006. Ers hynny, mae wedi dilyn gyrfa brysur ac amrywiol. Gwnaeth ymddangosiadau unigol gyda’r BBC Philharmonic, BBC Symphony Orchestra, BBC Concert Orchestra, London Sinfonietta, Philharmonia, Cerddorfa Symffoni Macedonia, Melbourne Symphony Orchestra, Britten Sinfonia, Sinfonia Viva, Orchestre de Picardie (Ffrainc), De Doelen Ensemble (Yr Iseldiroedd), etc. Mae wedi perfformio a darlledu ar deledu a radio ledled Ewrop, UDA, Mecsico, Hong Kong, Singapore, Tsieina, Japan, Rwsia, Awstralia a’r Deyrnas Unedig.

Arbenigedd

Mae Owen wedi cydweithio’n agos â llawer o gyfansoddwyr, ac wedi chwarae a recordio comisiynau newydd ganddynt, gan gynnwys Steve Reich, George Benjamin, Brett Dean, Thomas Ades, Unsuk Chin, Aphex Twin, David Lang, Nico Muhly, Micheal Nyman, Oliver Knussen, Donnacha Dennehey, Benjamin Wallfisch, Alexandre Desplat, etc. Mae hefyd wedi bod yn rhan o nifer o recordiadau stiwdio yn Llundain, Efrog Newydd a Dulyn.

Fel Cerddor Siambr a Cherddorfaol, mae Owen yn aelod o’r Colin Currie Quartet, Colin Currie Group a The Crash Ensemble (Dulyn). Mae hefyd yn gweithio gyda’r London Sinfonietta, BBC Symphony Orchestra, London Symphony Orchestra, BBC Concert Orchestra, London Philharmonic Orchestra, Cerddorfa Siambr Ewrop, Sinfonia of London, Bournemouth Symphony Orchestra, Ulster Orchestra, City of Birmingham Symphony Orchestra, Cerddorfa Siambr Mosgo, Britten Sinfonia, John Wilson Orchestra, Royal Northern Sinfonia ac eraill.

Cyflawniadau Nodedig

Mae deuawd offerynnau taro Owen, O Duo, wedi rhyddhau dau albwm ac wedi perfformio ledled y byd gan ddenu clod y beirniaid. Maent wedi ennill gwobrau Young Classical Artists Trust, Tunnel Trust, Making Music, Royal Over-Seas League a Pherfformiad Cerddoriaeth Gorau Ffrinj Caeredin.

Proffiliau staff eraill