Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Eve Carey


Rôl y swydd: Is-lywydd, Lles a Chynhwysiant

Helo, Eve ydw i, myfyriwr MMus Llais, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr i fod yn Is-lywydd Lles a Chynhwysiant ar eich rhan! 

Rwy’n angerddol ynglŷn â gwneud yn siŵr bod pob myfyriwr yn teimlo’n ddiogel, wedi’u cefnogi a’u cynnwys drwy gydol eu cyfnod yn y Coleg. Byddaf yn canolbwyntio ar wella a symleiddio systemau ar gyfer adrodd am ymddygiad niweidiol, eiriol dros hygyrchedd, 

niwroamrywiaeth a diogelwch menywod, a helpu i ddechrau sgyrsiau ehangach ynghylch ymwybyddiaeth

 o alergedd a diogelwch. 

Yn bwysicaf oll, rydw i am fod yn wyneb cyfeillgar, yn glust i wrando ac yn rhywun y mae myfyrwyr yn teimlo’n gyfforddus yn mynd atynt. P’un a oes gennych bryder, syniad neu ond angen cefnogaeth, rydw i am helpu i wneud yn siŵr bod pob llais yn cael ei glywed a’i gynrychioli. Rydw i wedi ymrwymo i weithio gyda myfyrwyr ar draws pob adran i greu amgylchedd Coleg lle gall pawb deimlo’n gartrefol, eu bod yn cael eu parchu a’u grymuso i lwyddo. 

Proffiliau staff eraill