Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Katy Morison

Rôl y swydd: Tiwtor Goleuo a Goruchwyliwr Goleuo Gwadd

Adran: Rheoli Llwyfan a Theatr Dechnegol

Anrhydeddau: PGDip

Bywgraffiad

Mae Katy yn ddylunydd goleuo profiadol sy’n gweithio ledled y DU mewn theatr, opera, dawns a pherfformio byw. A hithau wedi’i lleoli yng Nghaerdydd, mae hi wedi meithrin perthynas gref â chyfarwyddwyr a theatrau mawr ledled Cymru. Mae hi wedi dylunio ar gyfer Theatr Sherman, Theatr Clwyd, Theatr Iolo, Theatr Genedlaethol Cymru, Bristol Old Vic, Theatrau Sheffield, Theatr Fuel, Theatr Watermill a Storyhouse Caer, ymysg eraill.

Yn 2004, cwblhaodd Ddiploma ôl-radd mewn Rheoli Llwyfan a Theatr Dechnegol yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac aeth ymlaen i ddechrau ei gyrfa fel technegydd yn Theatr Sherman. Bu’n rhan o’r tîm goleuo am saith mlynedd, tra hefyd yn addysgu a goruchwylio yn y Coleg, cyn mynd yn ddylunydd goleuo llawrydd yn 2012.

Mae Katy hefyd wedi gweithio fel dylunydd cyswllt ac ail-oleuwr i amrywiaeth o ddylunwyr goleuo blaenllaw, ac mae ganddi brofiad helaeth o deithio ledled Cymru a’r DU.

Proffiliau staff eraill