Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Olly Cooper


Rôl y swydd: Is-lywydd, Digwyddiadau a Chymdeithasau

Helo, Olly ydw i. Rwy’n fyfyriwr Rheoli Llwyfan a Theatr Dechnegol yn fy nhrydedd flwyddyn ac yn edrych ymlaen at gymryd yr awenau fel eich Is-lywydd Digwyddiadau a Chymdeithasau. 

Fy nod fel Is- lywydd yw dod â bywyd newydd i Undeb y Myfyrwyr trwy gynnal mwy o ddigwyddiadau byw a chreu calendr prysur o weithgareddau. Gyda fy mhrofiad mewn digwyddiadau byw, byddaf yn gallu cynhyrchu digwyddiadau sydd â gwerth cynhyrchu gwirioneddol a dod â’r arbenigedd technegol sydd ei angen i’w gwneud y rhai gorau y gallant fod. 

Mae gennym ni gyd fywydau coleg prysur iawn, felly rydw i am greu man lle mae pawb yn teimlo’n gartrefol i gymryd seibiant o’r llwyth gwaith a mwynhau. Rydw i hefyd am roi llwyfan i bob myfyriwr berfformio ac arddangos eu creadigrwydd, boed hynny trwy fandiau, cymdeithasau neu rywbeth hollol wahanol. 

Rwy’n edrych ymlaen at fod yn llais i fyfyrwyr a sicrhau bod syniadau pawb yn cael eu clywed, gan helpu i wneud Undeb y Myfyrwyr yn lle gwych a phleserus i bawb. 

Proffiliau staff eraill