Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Lisa Hall

Rhagenwau

Hi/Ei


Rôl y swydd: Tiwtor Rheoli Llwyfan

Adran: Rheoli Llwyfan a Theatr Dechnegol

Anrhydeddau: BA(Anrh) Rheoli Llwyfan

Gweld eu gwaith:

Bywgraffiad

Hyfforddodd Lisa mewn Rheoli Llwyfan yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac ers hynny mae wedi gweithio’n helaeth yn y theatr ac ar ddigwyddiadau ar raddfa fawr. Ar ôl blynyddoedd o weithio mewn cynyrchiadau theatr teithiol a digwyddiadau mewn caeau mawr a stadia ledled y wlad, ymgymerodd Lisa â rôl Rheolwr Prosiect ar gyfer SC Productions.

Arbenigedd

Ar ôl graddio o’r coleg, bu Lisa’n Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol mewn sioeau teithiol mawr a chyn bo hir daeth yn Rheolwr Cwmni ar gyfer yr English Touring Theatre a Theatre Royal Bath. Yn ystod y cyfnod hwn, bu’n gweithio ochr yn ochr â Syr Peter Hall, Stephen Unwin a Syr Michael Boyd. Hefyd, fe ddechreuodd ei gyrfa mewn cyngherddau a gwyliau cerddoriaeth awyr agored, gan weithio i Sarah Hemsley Cole.

Mae Lisa wedi symud o weithio’n llawrydd i rôl barhaol fel Rheolwr Prosiect ar gyfer SC Productions, lle mae hi wedi rheoli safleoedd ar sioeau gan gynnwys Mathematics Tour Ed Sheeran , Eras Tour Taylor Swift, a’r bandiau Stereophonics, The Reytons and Idles. Mae hi hefyd yn parhau i weithio fel Rheolwr Cynhyrchu yn y theatr gyda SC Productions ac yn gyhoeddwr sioe ar gyfer sioeau Nadolig CBeebies y BBC a chynyrchiadau Shakespeare yn Shakespeare’s Globe, yn ogystal â darparu gwasanaethau rheoli cynyrchiadau ar gyfer Gŵyl Llais yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Llwyddiannau Nodedig

Drwy gydol ei gyrfa, mae prif uchafbwyntiau Lisa yn cynnwys bod yn rhan o dîm rheoli llwyfan City of the Unexpectedyng Nghaerdydd, lle enillodd y tîm wobr Tîm y Flwyddyn y Gymdeithas Rheoli Llwyfan (SMA). Roedd hefyd yn gyhoeddwr sioe yn Seremoni Cloi Prifddinas Diwylliant Ewrop Aarhus; ac yn gweithio fel rhan o dîm rheoli’r safle yn Stadiwm Principality ar gyfer Eras Tour Taylor Swift.

Proffiliau staff eraill