Lucy Robinson
Tiwtor Fiol
Rôl y swydd: Tiwtor Feiolin
Adran: Llinynnau
Yn ogystal â’i ymrwymiadau gyda’r London Bridge Trio, David Adams yw blaenwr Cerddorfa Opera Genedlaethol Cymru. Yn ei rôl gydag Opera Cenedlaethol Cymru, mae David wedi perfformio sawl concerto gyda’r gerddorfa ac mae’n mwynhau cyfarwyddo cyngherddau o’r fiolín.
Ac yntau’r un mor gartrefol ar y fiolín a’r fiola, mae David yn gwneud ymddangosiadau gwadd, recordiadau a darllediadau rheolaidd gyda’r Nash Ensemble, Endellion String Quartet, Gould Piano Trio a’r Hebrides Ensemble. Mae wedi recordio holl Bedwarawdau Piano Brahms gyda’r Gould Piano Trio a Phumawdau Llinynnau Beethoven gyda’r Endellion String Quartet. Mae’n mynychu Seminar y Cerddorion Rhyngwladol yn Prussia Cove yn rheolaidd. Mae David hefyd yn ymddangos fel blaenwr gwadd gyda’r rhan fwyaf o’r cerddorfeydd yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Hallé, BBC Scottish Symphony Orchestra, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, BBC Philharmonic, BBC Symphony Orchestra, Scottish Chamber Orchestra, Royal Scottish National Orchestra a Cherddorfa Symffoni Radio Sweden.
Mae David yn hanu o deulu cerddorol. Ei dad oedd Prif Fiolydd yr Halle Orchestra ac mae’n briod â’r chwaraewr soddgrwth Alice Neary. Gyda’i gilydd, Alice a David yw Cyfarwyddwyr Artistig Gŵyl Cerddoriaeth Siambr Penarth sy’n cael ei chynnal bob haf ym Mhafiliwn Pier Penarth. Ar ôl cael ei annog a’i arwain gan ei dad, mae ei brif athrawon yn cynnwys Daniel Phillips, Zvi Zeitlin, Malcolm Layfield a Misha Amory (fiola).