
Dr Sarah Smith
Uwch-ddarlithydd mewn Cerddoriaeth (Astudiaethau Cyd-destunol)

Astudiodd Connor Fogel y piano yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a chwblhaodd radd meistr mewn cyfarwyddo cerddorol yn Mountview Academy of Theatre Arts. Mae’n mwynhau gyrfa amrywiol fel cyfarwyddwr cerddorol ar gyfer theatr, pianydd cyngerdd a cherddolegydd.
Mae ei gredydau theatr yn cynnwys Chicago (Taith Byd), The Phantom of the Opera (West End a Thaith Byd), The BFG (Royal Shakespeare Company, Chichester a Singapore), Scissorhandz (Southwark Playhouse), Chicago (Taith Ryngwladol), Hello, Dolly!(London Palladium), Ben & Imo (Royal Shakespeare Company ac Orange Tree Theatre), The King and I (Taith y DU), Flowers for Mrs Harris (Riverside Studios), Polly & Esther (Edinburgh Fringe, Adelaide Fringe a Theatr Sherman), Julius Caesar (Taith y DU gan y Royal Shakespeare Company), Les Misérables (Taith y DU ac Iwerddon), Queerway (Canolfan Mileniwm Cymru a Thaith y DU), Cinderella (Queen’s Theatre, Barnstaple and Gatehouse Theatre, Stafford), Topsie’s Crystal Balls (Taith y DU), The Soprano Behind the Screen (Taith y DU), As You Like It, The Taming of the Shrew a Measure for Measure (Royal Shakespeare Company, Barbican, Taith y DU, UDA ac Asia), Queen of the Mist (Charing Cross Theatre a Jack Studio Theatre) a Sweet Charity (Nottingham Playhouse).
Mae credydau ffilm a theledu Connor yn cynnwys The Contract, gyda Harry Enfield yn serennu, a’r ddrama ITV a enillodd wobr BAFTA The Lost Honour of Christopher Jefferies.
Mae Connor wedi derbyn nifer o wobrau a dyfarniadau, gan gynnwys yr ail wobr yng Nghystadleuaeth Piano Ryngwladol Cymdeithas Liszt 2019 a Gwobr Cyfarwyddwr Cerdd 2016 gan The Worshipful Company of Musicians. Daeth yn Rhyddfreiniwr y Cwmni yn 2022 a chafodd Ryddid Dinas Llundain yn 2026.
Rhyddhawyd ei albwm Rediscovering Liszt, sy’n cynnwys ail-greadau hanesyddol o raglenni datganiadau a berfformiwyd gan Liszt, gan Prima Facie Records yn 2026. Mae wedi ysgrifennu’n helaeth ar berfformiadau hanesyddol ar gyfer Cymdeithas Liszt, wedi cyflwyno mewn cynadleddau cerddoriaeth rhyngwladol, ac mae’n perfformio’n rheolaidd mewn datganiadau, cyngherddau, gwyliau, cynyrchiadau theatr a pherfformiadau cabaret ledled y DU ac yn rhyngwladol.
Mae Connor yn Artist Cyswllt Anrhydeddus Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac roedd gynt yn Gyfarwyddwr Cerdd Cyswllt Andrew Lloyd Webber yn Royal Central School of Speech and Drama. Ynghyd ag addysgu yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac Mountview Academy of Theatre Arts, mae hefyd yn addysgu yn yr Academi Gerdd Frenhinol, ArtsEd ac Italia Conti.