Sinfonia Cymru, Catrin Finch, Patrick Rimes, Hanan Issa + Only Boys Aloud.
Dewch i brofi gwir ysbryd y Nadolig ar un llwyfan, wrth i Sinfonia Cymru ymuno â’r delynores Catrin Finch, y ffidlwr Patrick Rimes, Only Boys Aloud, Hanan Issa - Bardd Cenedlaethol Cymru ac Only Boys Aloud. Dyma gyngerdd unigryw a dwyieithog sy’n plethu carolau Plygain traddodiadol, ffefrynnau Nadoligaidd a barddoniaeth newydd. Wedi’i ysbrydoli gan A Child’s Christmas in Wales, mae’n ddathliad bywiog o draddodiadau Cymreig, amrywiaeth a hud y Nadolig.