Neuadd breswyl
Severn Point yw neuadd breswyl ddynodedig y Coleg ac mae’n cynnig llety yng nghanol y ddinas. Mae’n cymryd tua 12 munud i gerdded oddi yno i’r Coleg ac mae mewn amgylchedd diogel iawn a chyffyrddus. Mae’r llety ar gyfer myfyrwyr Coleg Brenhinol Cymru yn unig, felly mae’n ffordd dda o gyfarfod ffrindiau a chyd-fyfyrwyr CBCDC.