Neidio i’r prif gynnwys

Ciniawau a derbyniadau

Mae ein lleoliadau trawiadol ar gael at eich defnydd chi’n egsgliwsif, ar gyfer hyd at 200 o westeion cinio ffurfiol a hyd at 500 o westeion derbyniad.

Gadewch i ni gynnal eich digwyddiad


Mae ein cyntedd gwydr tri llawr syfrdanol a’n teras awyr-agored sy’n edrych allan dros barcdir rhestredig Gradd 1 Parc Bute a Chastell Caerdydd yn un o’r lleoliadau mwyaf poblogaidd yng Nghaerdydd.

Bwyd a diod bendigedig

Ein lleoliadau

Mae ein lleoliadau trawiadol ar gael at eich defnydd chi’n egsgliwsif, ar gyfer hyd at 200 o westeion cinio ffurfiol a hyd at 500 o westeion derbyniad.

Mae dwy ystafell dderbyn arall ar gyfer hyd at 80 o westeion, ar gael yng nghanolfan hanesyddol Anthony Hopkins, stablau gwreiddiol Castell Caerdydd. Mae ei rhodfa goediog atyniadol yn cynnig mynedfa drawiadol ar gyfer eich gwesteion.

Cewch gefnogaeth ein tîm llawn, a fydd yn cynnig gwasanaethau cynllunio digwyddiadau proffesiynol, cefnogaeth dechnegol brofiadol ac arbenigol, arlwyo heb ei ail, gofal cwsmeriaid croesawus a doniau perfformio disglair.

Beth mae ein cwsmeriaid yn ei ddweud

Hoffwn fynegi fy niolch diffuant i chi a’ch tîm am helpu i wneud ein noson yn un gwbl hudolus. Roedd y bwyd, yr awyrgylch a’r trefniadau yn ardderchog; mae eich proffesiynoldeb a’ch ymroddiad yn ddiguro, ac ni fyddwn yn petruso’r un eiliad cyn argymell eich gwasanaethau a’r lleoliad i eraill.
RLC ProductionsTrefnydd
Roedd y staff i gyd yn hynod broffesiynol, cyfeillgar a chymwynasgar, ac rydyn ni wedi derbyn cymaint o adborth cadarnhaol. Roedd pawb wrth ein bwrdd ni'n sôn am ansawdd y bwyd, a'r pwdinau hardd yn enwedig!
Rhaglawiaeth Morgannwg GanolTrefnydd

Ein mannau llogi


Archwilio’r adran