Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Taith: Cefnogi myfyrwyr i gael profiadau rhyngwladol sy’n newid bywydau

Gan helpu’r Coleg i chwarae ei ran ar y llwyfan rhyngwladol, mae ein partneriaeth â Taith ac Astudio Dramor yn helpu i agor drysau i fyfyrwyr, gan ddarparu cyllid i ddysgwyr ar draws y byd i gymryd rhan mewn teithiau cyfnewid addysgol rhyngwladol.

Cyfleoedd sy’n newid bywydau

Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, mae’r prosiectau hyn yn helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau cymdeithasol, proffesiynol a rhyngddiwylliannol, gan roi cyfleoedd iddynt deithio a dysgu o amgylch y byd a fydd yn newid eu bywydau.

‘Mae cynllun Taith unigryw Llywodraeth Cymru yn galluogi ein myfyrwyr ym meysydd Cerddoriaeth a Drama i fanteisio ar gyfoeth o brofiadau ledled y byd, wedi’u teilwra i’w hastudiaethau a’u dyheadau,’ meddai Zoe Smith, Pennaeth Rhaglenni Ôl-radd Cerddoriaeth. 

‘Mae’r cyllid hwn ar gyfer ystod gyffrous o weithgareddau rhyngwladol yn helpu i agor drysau i brofiadau trawsnewidiol a fydd yn gwneud y myfyrwyr hyn yn arbennig yn eu gyrfaoedd o fewn y diwydiannau celfyddydau creadigol ledled y byd yn y dyfodol.’

Buom yn siarad â rhai o’r myfyrwyr sydd wedi cymryd rhan mewn teithiau cyfnewid astudio dramor yn ddiweddar:

Symudedd astudio: Prifysgol Toronto

Un o nodau allweddol Astudio Dramor yw ‘symudedd astudio’ lle mae astudiaethau’n rhan o brofiad dysgu rhyngwladol

Mae gan y Coleg bartneriaeth â Phrifysgol Toronto, ac yn ystod tymor yr hydref diwethaf aeth tri myfyriwr cerddoriaeth CBCDC i Toronto, gyda chefnogaeth Taith.

Ymwelodd y Cyfarwyddwr Cerddoriaeth, Tim Rhys-Evans, â’r brifysgol yr hydref diwethaf:

‘Roedd hi’n wych gweld drosof fy hun pa mor agos ydyn ni o ran uchelgais cerddorol a dull o ddysgu sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr. Trwy gwrdd â staff a myfyrwyr yno, gwneud ychydig o waith addysgu tîm, a mynychu rihyrsals a pherfformiadau roeddwn yn gallu cael gwir ymdeimlad o’r adran, rhannu arfer gorau a mwynhau gwneud cysylltiadau newydd.

Gan fod tri o’n myfyrwyr ar ganol eu cyfnod o astudio dramor, roeddwn yn gallu eu gweld yn yr amgylchedd newydd hwn, gweld sut maent wedi tyfu o ganlyniad i’r profiad, a pha mor bwysig yw hi fod Taith yn galluogi’r gwaith pwysig hwn sy’n ehangu gorwelion.’
Tim Rhys-EvansCyfarwyddwr Cerddoriaeth

I’r myfyriwr Llais Andrew Woodmass-Calvert, roedd y daith yn caniatáu iddo ymgolli mewn byd cerddorol gwahanol a herio’i hun. Bu’n gweithio nid yn unig â’r Adran Llais, ond hefyd gyda myfyrwyr gradd Meistr mewn cynhyrchu opera gyda cherddorfa lawn yn perfformio ‘Il Capello di paglia di Firenze’, a gydag ensemble Baróc fel rhan o’u perfformiad hanesyddol-wybodus o’r opera ‘Dido and Aeneas’.

‘Roedd prifysgol Toronto yn debyg iawn i CBCDC, cymuned hynod groesawgar ac ysbrydoledig. Roedd yn golygu llawer o waith, ond os ydych chi eisiau’r profiad rydym ni mor ffodus i gael y cysylltiad â nhw. Roedd hefyd yn gyfle gwych i rwydweithio.’

Gwnaeth y delynores Yasmin gais oherwydd bod un o’i harwyr telyn, Judy Loman, yn Athro Telyn yn y Brifysgol. Bu’n rhan ym mhopeth, o Gerddorfa Symffoni’r Brifysgol i’r ensemble cerddoriaeth gyfoes, i’r opera, gan ei bod yn un o ddau delynor yn unig oedd yno.

'Fyddwn i ddim wedi gallu gwneud hyn heb gyllid Taith. 

Mae wedi ehangu fy ngwybodaeth gerddorol yn fawr ac mae pawb yn dweud fy mod wedi dychwelyd yn berson mor wahanol. Rwy’n dod o’r Rhondda ac mae wedi fy ngwthio i fod yn llawer mwy annibynnol. 

Roedd yn naid i’r dŵr dwfn, ond rydw i wedi gwneud ffrindiau mor arbennig ac roedd yn wych cael profiad mor wahanol. Rwy’n gobeithio dychwelyd yno i astudio ar gyfer fy ngradd Meistr y flwyddyn nesaf.’

Ehangu ac ymestyn gorwelion cerddorol - gydag opsiynau hyblyg

Mae hyblygrwydd cyllid Taith yn golygu y gall gwmpasu gwahanol brosiectau, megis ysgolion haf, lleoliadau gwaith, neu gyfnod cyfnewid dysgu dwys am bythefnos.

Cefnogwyd y myfyriwr ôl-radd Perfformio Chwythbrennau Ella Pearson (Pea) ac Anna Drewniok, sydd ar y llwybr Cyfansoddwr-Perfformiwr yn arbenigo mewn canu Jazz, ar gyfer taith pythefnos i Academi Cerddoriaeth a Theatr Lithwania yn Vilnius.

Gwnaethant dreulio’r ail wythnos yn ContemPLAY – gŵyl greadigol ryngwladol newydd ar gyfer cerddoriaeth arbrofol a byrfyfyr, gyda darlithoedd a grwpiau byrfyfyr, sesiynau jamio a chyngherddau mewn gwahanol leoliadau o amgylch y ddinas, gan arwain at berfformiad ar y dydd Gwener.

‘Roedd mynd am bythefnos yn rhoi amser i ni sefydlu ein hunain yn barod ar gyfer cwrs dwys yr ail wythnos.

Caniataodd i ni ddatblygu ein gwaith creadigol a phlymio’n ddyfnach i’n chwarae a’n perfformio. A, gan fy mod i’n fyfyriwr rhyngwladol, doeddwn i ddim eisiau bod allan o’r wlad hon yn rhy hir, ac fel myfyriwr ôl-radd roedd tymor cyfan yn teimlo fel gormod o amser allan o fy nghwrs.

Ond roedd yn ddigon o amser i brofi a dysgu am eu diwylliant cerddorol, ac i ehangu ac ymestyn fy ngorwelion a lliwio fy mhalet cerddorol - gan fwydo i mewn i fy EP, sy’n rhan o’m cwrs.
Ania Drewniok

‘Roedd yn arddull cerddorol cwbl wahanol i unrhyw fath rydw i wedi’i brofi o’r blaen,’ meddai Pea. ‘Roedd y cyngherddau’n anhygoel, yn gwneud synau ar offerynnau nad oeddwn i erioed wedi’u clywed. 

Roedd fel petai nad oedd unrhyw derfynau i’r gerddoriaeth o gwbl. Roedden nhw wir yn gwthio’r ffiniau – doedd ganddyn nhw ddim ffiniau i bob golwg. ‘

‘Roedd cymysgedd anhygoel o fyfyrwyr Ewropeaidd a lleol o Lithwania’, ychwanegodd Anna. ‘Gwnes gysylltiadau a chyfeillgarwch go iawn ac rydw i eisoes wedi gwahodd rhai ohonynt draw i Gaerdydd!’

Cefnogi camau cyntaf i’r proffesiwn

Mae Taith yn galluogi gwahanol fathau o weithgareddau cerddorol a diwylliannol, gan weithio gyda myfyrwyr i greu’r profiad gorau a mwyaf gwerth chweil iddynt, gyda llwybr pwrpasol i gefnogi lleoliadau gwaith.

Fel rhan o fodiwl MA Ymarfer Cyfarwyddo’r Diwydiant Opera Christian Hey bydd yn mynd i Iwerddon i weithio ar leoliad fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol gydag Opera Cenedlaethol Iwerddon am saith wythnos ym mis Mawrth eleni.

Bydd yn cyrraedd yno ar ddechrau’r rihyrsals yn Nulyn ac yna bedair wythnos yn ddiweddarach yn mynd i Tralee am rihyrsal technoleg cyn mynd ar daith i dri lleoliad gwahanol yn Iwerddon.

‘Mae’n lleoliad gwaith mor wych,’ meddai Christian, ‘Rydw i wrth fy modd â gweledigaeth artistig INO i rannu opera gyda chymaint o bobl â phosibl, ac i wir ystyried yr hyn y mae cynulleidfa fodern am ei gael. A bydd gweithio yn yr holl leoliadau lleol gwahanol hyn yn brofiad gwych pan fyddaf yn gadael.’


Hyd yn oed mwy o hyblygrwydd ar gyfer cefnogi astudiaethau

Mae Tara Camm, myfyriwr llais ôl-radd, yn edrych ymlaen at ymgolli yn ei hangerdd am gerddoriaeth yr Almaen pan fydd yn mynd i Academi Opera Berlin ym mis Awst, gyda chefnogaeth ffrwd ariannu ysgol haf Taith.

‘Dyma gyfle i mi drochi yn niwylliant yr Almaen, yn un o’r ysgolion opera gorau,’ meddai. ‘Mae Taith yn helpu gyda chostau byw a llety, sydd wedi fy helpu’n aruthrol.’

Mae hi eisoes wedi’i chastio yn ‘Soer Anjelica’ fel rhan o Ŵyl Opera Haf Berlin. Bydd ei mis dramor yn cynnwys dosbarthiadau meistr, canu i asiantau a hyfforddiant un i un, yn ogystal â dirprwyo ar gyfer rôl arall.

Myfyrwyr rhyngwladol yn profi bywyd yn CBCDC

Mae’r Coleg yn parhau i gefnogi ei gydweithwyr rhyngwladol fel rhan o’i gynllun Astudio Dramor. Mae Belmont yn Nashville yn brosiect sydd yn ei ail flwyddyn ac sy’n dod â myfyrwyr draw i astudio yn y Coleg.

Eleni mae naw cerddor a dau actor wedi dod draw am gyfnod o 16 wythnos. Mae eu gwaith wedi’i deilwra i’w hanghenion, felly er eu bod yn dod i mewn i gwrs gradd yr ail flwyddyn byddant yn mynychu dosbarthiadau blwyddyn gyntaf neu’r drydedd flwyddyn hefyd, yn dibynnu ar eu gofynion.

Mae gofal bugeiliol, megis cefnogaeth wythnosol, wedi’i ymgorffori yn y model hwn, gan wneud yn siŵr bod myfyrwyr Anrhydedd Byd-eang yn cael dysgu rhyngwladol fel rhan o’u profiad hyfforddiant.


Holl fyfyrwyr Belmont ar eu taith gyntaf o amgylch Caerdydd gyda Llywydd UM, Natalie Roe.

Daeth y myfyriwr llais Kylie Hansen draw o Belmont i astudio yma llynedd:

‘Cefais groeso mawr gan fy nghyfoedion a’r gyfadran drwy gydol fy nghyfnod yn astudio yn CBCDC. Gan fod pawb mor gefnogol, teimlais fy mod wedi gwneud cynnydd aruthrol yn fy nghelfyddyd a chael fy ysbrydoli yn ddyddiol nid yn unig gan fy nghyd-gantorion, ond yr offerynwyr hefyd.

Roedd yn amgylchedd gwych i fireinio’r hyn rwy’n angerddol yn ei gylch. Roeddwn wedi gallu gwneud ffrindiau’n gyflym a theimlo gwir ymdeimlad o berthyn a phwrpas ymhlith y fath dalent a dawn gelfyddydol, ac am hynny byddaf yn dragwyddol ddiolchgar!’


Storïau eraill