Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Maestro Xu Zhong yn dychwelyd i CBCDC

Gwahoddwyd Maestro Xu Zhong, Athro Cadair Rhyngwladol ar gyfer Opera Rhyngwladol CBCDC, arweinydd enwog a Llywydd Tŷ Opera Shanghai, gan y Tŷ Opera Brenhinol Covent Garden a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i ymweld â’r Deyrnas Unedig yn ddiweddar.

Roedd yn dychwelyd i Gaerdydd am y tro cyntaf ers ei benodiad gan CBCDC yn 2021, i drafod cynlluniau ar gyfer Gala Opera WNO ym mis Rhagfyr gyda’r Prifathro, yr Athro Helena Gaunt, Tim Rhys-Evans, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth, a James Southall, Cyfarwyddwr Cerdd Ysgol Opera David Seligman CBCDC.

Trwy gyd-ddigwyddiad, mae 2024 yn nodi 75 mlynedd ers sefydlu’r Coleg a hefyd Gweriniaeth Pobl Tsieina. Fel rhan o’i ddathliadau roedd y Coleg wedi gwahodd Maestro Xu i gynnal ei Gala Opera gaeaf, sef prosiect artistig ar y cyd rhwng CBCDC a WNO.

Mae rôl Athro Cadair Rhyngwladol Xu Zhong yn cefnogi’r Coleg i archwilio ac ehangu ei gydweithio a recriwtio myfyrwyr rhyngwladol, a chreu mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr o’r Gorllewin gysylltu â Tsieina a gweddill y byd drwy’r celfyddydau. Gan adlewyrchu hyn, bydd elfennau gorllewinol a dwyreiniol yn cael eu cynnwys yn repertoire y Gala Opera.

Mae’r grefft o ganu yn ffactor cadarnhaol sy’n hybu orau'r cyfnewid diwylliant rhwng ein dwy wlad.

Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio’n artistig gyda CBCDC a WNO yn ddiweddarach eleni, gan weithio gyda’r holl fyfyrwyr a cherddorion rhagorol, yn ogystal â’r ddau ganwr o Dŷ Opera Shanghai, Song Qian a Yu Haolei, a fydd yn ymddangos fel artistiaid gwadd.’
Maestro Xu

‘Mae’n bleser mawr gennyf groesawu Maestro Xu Zhong yn ôl i’r Coleg, a’i wahodd yn ôl ym mis Rhagfyr i arwain ein Gala Opera WNO, a fydd yn arddangosfa ragorol o synergedd artistig rhyngwladol, gan ymgorffori Cymru fel grym creadigol nodedig,’ meddai’r Prifathro Helena Gaunt.

Tra roedd yn y DU fe wnaeth Maestro Xu hefyd gwrdd ag Alex Beard, Prif Weithredwr y Tŷ Opera Brenhinol yn Llundain i drafod cynlluniau ar gyfer cydweithio yn y dyfodol.

Storïau eraill