Neidio i’r prif gynnwys

Preswylfeydd myfyrwyr yn CBCDC

Mae preswylfeydd myfyrwyr CBCDC yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau perfformio, addysgu ac entrepreneuraidd wrth weithio gyda sefydliadau celfyddydol a chymunedau ledled Cymru.

Allow Youtube content?

Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

Creu cerddorion mewn cymdeithas

Trwy bartneriaethau â lleoliadau a sefydliadau cymunedol, mae myfyrwyr yn cyflwyno cyngherddau, gweithdai a gweithgareddau cyfranogol, gan ennill profiad ymarferol o ymgysylltu â chynulleidfaoedd a datblygu eu harfer proffesiynol.

Mae preswylfeydd yn rhoi cyfle i ensembles myfyrwyr feithrin perthnasoedd parhaus â sefydliadau partner, gyda gweithgareddau rheolaidd yn digwydd dros gyfnod estynedig.

Mae myfyrwyr yn derbyn mentora a chefnogaeth i ddatblygu eu sgiliau creadigol, cydweithredol a busnes.

Mae’r rhaglen hefyd yn helpu i ddod â’r celfyddydau i mewn i gymunedau lleol, gan greu cyfleoedd i bobl brofi a chymryd rhan mewn cerddoriaeth.

Ein partneriaid preswylfeydd

Mae preswylfeydd a phrosiectau wedi cynnwys:

Canolfan Gelfyddydau’r Eglwys Norwyaidd, Bae Caerdydd
Mae Pedwarawd Vita wedi cael cefnogaeth gyda lle i ymarfer, yn dilyn preswylfeydd blaenorol gyda Phumawd Bute. Mae myfyrwyr hefyd yn elwa o fentora proffesiynol, cyfleoedd perfformio masnachol, a chyflwyniadau i sefydliadau celfyddydol a masnachol, gan gynnwys mynediad at gynllun llogi artistiaid y lleoliad.

Pedal Power, Parc Bute
Mae Ensemble Gitâr CBCDC yn cynnal sesiynau rheolaidd, gan rannu cerddoriaeth mewn lleoliad cymunedol croesawgar.

Pafiliwn Pier Penarth
Mae myfyrwyr ac ensembles CBCDC wedi gweithio gyda gwahanol grwpiau cymunedol, gan gynnwys trwy weithdai blynyddoedd cynnar.

Castell y Gelli, Y Gelli Gandryll
Mae ensemble siambr ‘Between the Strings’, sy’n cynnwys myfyrwyr gitâr, telyn, llais a feiolin, yn artistiaid preswyl yn y lleoliad hanesyddol. Mae’r preswyliad yn rhoi cyfleoedd perfformio iddynt, gan gynnwys perfformiadau masnachol, cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithdai a digwyddiadau cymunedol, a mentora proffesiynol gan dîm Castell y Gelli.

Mae’r rhaglen hon yn bosibl trwy gefnogaeth hael Ymddiriedolaeth Elusennol Anthony G Woolcot.


Adran archwilio