Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Acceptd

Rydym yn defnyddio Acceptd fel ein porth ar gyfer uwchlwytho recordiadau clyweliad, portffolios a dogfennau.

Bydd clyweliadau ar gyfer pob cwrs Cerdd yn cael eu cynnal trwy recordio.

Rydym yn defnyddio Acceptd fel ein porth ar gyfer uwchlwytho recordiadau clyweliad, portffolios a dogfennau. Os oes gennych gyfrif, gallwch fewngofnodi yma neu dechrau trwy creu cyfrif am ddim. Ni ddylai pob ffeil fideo a uwchlwythir fod yn fwy na 4GB. Mae fformat ffeiliau derbyniol yn cynnwys MP4, MPEG, MPG, MOV, AVI, WMV, M4V, FLV, WEBM, MKV, M2V. Fel arall, gallwch uwchlwytho dolen URL neu ddolen i YouTube. Mae canllawiau defnyddiol ar y dudalen gefnogaeth Acceptd.

Er mwyn eich cynorthwyo i baratoi eich recordiad/portffolio, dilynwch y Canllawiau Clyweliad ar ein gwefan neu’r adran Adnoddau Acceptd.

Llwythwch eich recordiad clyweliad/portffolio i mewn i’r porth Acceptd erbyn Dydd Llun 23 Hydref 2023.

I gychwyn eich proffil Acceptd, dewiswch y cwrs a’r rhaglen berthnasol. Sicrhewch eich bod yn cynnwys eich enw a ID UCAS yn union yr un fformat â’ch cais UCAS Conservatoires a llenwch wybodaeth y cais.

Bydd yr Adran Deunydd Atodol yn gofyn i chi ddewis y ffeil/recordiadau perthnasol i'w uwchlwytho yn uniongyrchol neu i ddarparu URL o YouTube neu blatfform tebyg. Gallwch gyflwyno'ch perfformiadau mewn un recordiad neu recordiad ar wahân.

Sicrhewch eich bod wedi gwirio eich holl ffeiliau a uwchlwythwyd ac wedi rhagolwg eich cais cyn pwyso ar ‘Cyflwyno’.

Bydd neges yn cael ei harddangos i gadarnhau eich bod wedi uwchlwytho'ch gwybodaeth yn llwyddiannus.

Ni fyddwn yn gallu cydnabod derbyn recordiadau unigol trwy e-bost.

Sylwch y gallwn ddefnyddio'r gwasanaeth neges Acceptd i gysylltu â chi, felly cofiwch ychwanegu getacceptd.com fel anfonwr diogel yn eich gosodiadau e-bost.

Os oes angen unrhyw gymorth pellach, cysylltwch â ni.

Edrychwn ymlaen at dderbyn eich recordiad/portfolio.