Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

MA Theatr Gerddorol

  • Dyfarniad:

    MA Theatr Gerddorol

  • Corff dyfarnu:

    Prifysgol De Cymru

  • Lleoliad astudio:

    Caerdydd (CBCDC, Stiwdios Llanisien a’r Hen Lyfrgell)

  • Dyddiad dechrau:

    22 Medi 2024

  • Hyd:

    10 mis llawn amser

  • Cod y cwrs:

    713F - UCAS Conservatoires

Cyflwyniad


Gyda’n cwrs sy’n cyfuno dosbarthiadau actio a dawns â gwersi canu un i un a rolau mewn dau berfformiad cyhoeddus, byddwch yn cwrdd â gofynion y diwydiant y dyddiau hyn.

Trosolwg o’r cwrs

Yn y rhaglen hyfforddi uwch hon, rydyn ni’n creu’r amgylchiadau – drwy waith dosbarth, ymarfer a pherfformio – sy’n eich sbarduno i ddatblygu sgiliau arbenigol mewn actio, canu, geiriau sy’n cael eu dweud, dawns a symudiad.

hynny, gallwch bontio’r bwlch rhwng gradd a enillwyd mewn pwnc gwahanol (neu brofiad actio blaenorol arall) a’r safon a ddisgwylir gan gyflogwyr yn y diwydiant theatr gerddorol.

Mae eich hyfforddiant yn cyfuno profiad ymarferol a hyfforddiant arbenigol dan arweiniad tiwtoriaid, cyfarwyddwyr a hyfforddwyr blaenllaw. O wythnos un ymlaen, bydd gennych amserlen ddwys, sy’n cynnwys gwersi canu unigol a hyfforddiant repertoire, dosbarthiadau sgiliau actio, dawns a lleisiol, gweithdai ac ymarferion.

Byddwch wedyn yn profi’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu mewn cyfres o berfformiadau cyhoeddus. Maen nhw’n cael eu cynnal mewn lleoliad sy’n adlewyrchu amgylchedd y theatr broffesiynol, ac maen nhw’n cynnwys o leiaf un cabaret ac un cynhyrchiad cerddorol diwedd blwyddyn wedi’i lwyfannu’n llawn.

Daw eich cwrs i ben gyda chyflwyniadau yng Nghaerdydd a’r West End yn Llundain i gynulleidfa wadd o asiantau, cyfarwyddwyr castio a darpar gyflogwyr. Mae gan ein myfyrwyr o America arddangosfa ychwanegol yn Efrog Newydd ar ôl iddyn nhw raddio.

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

'Roeddwn i'n gwybod bod angen i mi gael hyfforddiant. Roeddwn i'n gwybod ei fod yn hanfodol oherwydd fel arall chawn i ddim gyrfa hirhoedlog. CBCDC oedd yr ysgol berffaith i gael yr hyfforddiant hwnnw o safon y diwydiant, a hefyd i mi fel person. Mae wedi rhoi'r grym i mi fod yn actor cyflawn, yn barod i ddechrau ar fy ngyrfa. Mae actio yn waith mor amlweddog a'r hyn mae'r Coleg yn ei wneud mor wych yw eich cael i ymdrochi ynddo, gan weithio gyda chymaint o arbenigwyr, o'r radio i'r sgrin a phob agwedd arall.'
Callum Scott HowellsGraddedig a Chymrawd
‘Fel artist o Sarajevo, Bosnia a Herzegovina, sydd â chefndir proffesiynol toreithiog mewn theatr a cherddoriaeth, roeddwn i’n chwilio am raglen a fyddai’n fy nghymell i dyfu a datblygu fy sgiliau. Fe lwyddodd y rhaglen MA Theatr Gerdd i wneud hynny a mwy, gan fy herio ac agor pennod newydd o bosibiliadau.

Mae cael fy nhrochi yn holl berfformiadau a gweithgareddau unigryw y Coleg, gweithio gyda darlithwyr a thiwtoriaid gorau’r diwydiant, a bod wrth galon cwrs arloesol wedi sbarduno fy mhenderfyniad, fy nychymyg a fy nghreadigrwydd. Rydw i wedi dod yn fwy ymwybodol o fy nilysrwydd, sy’n mynd i fod yn eithriadol o fuddiol ar gyfer fy ngyrfa.’
Nikolina VujicMyfyriwr MA

Pam astudio’r cwrs hwn?

  • Gyda dim ond 14 lle ar gael bob blwyddyn, byddwch yn cael lefel eithriadol o sylw unigol a hyfforddiant gyrfa, yn ogystal â’r holl fanteision o weithio fel rhan o ensemble bach.
  • Nid yw ein cwrs yn cydymffurfio ag un athroniaeth o hyfforddiant theatr gerddorol yn unig. Yn hytrach, byddwch yn cael eich cyflwyno i nifer o ddylanwadau a strategaethau, gan ganiatáu i chi wneud dewisiadau hyddysg am y dulliau yr hoffech eu hymgorffori yn eich gwaith eich hun.
  • Mae eich hyfforddiant yn cynnwys amrywiaeth gynhwysfawr o wersi actio, lleisiol a dawns, sy’n cynnig amrywiaeth o ddulliau sy’n cael eu harwain gan y diwydiant y gallwch eu defnyddio yn eich gyrfa broffesiynol. 
  • O ran yr actio, byddwch yn cael dosbarthiadau sgiliau gyda thiwtoriaid profiadol o’n rhaglenni actio, gan weithio gyda byrfyfyrio, cymeriad, perthnasoedd a thestun.
  • Mae eich dosbarthiadau canu un i un gyda hyfforddwr lleisiol uchel ei barch, yn canolbwyntio ar ddatblygu technegau a repertoire diogel a chynaliadwy. Cefnogir hyn gan ddosbarthiadau sgiliau lleisiol sy’n ymdrin â thechnegau corfforol ar gyfer perfformio, yn ogystal â ffisioleg lleisiol, tafodieithoedd ac acenion a’r ffordd yr ydych yn defnyddio’ch llais yn fynegiannol.
  • Ar gyfer y cydrannau dawns a symud, byddwch yn archwilio amrywiaeth o ddisgyblaethau, gan gynnwys jazz, tap a bale. Byddwch hefyd yn dod o hyd i ddulliau ffisegol o ddatblygu cymeriad a dulliau ar gyfer defnyddio eich corff yn ddiogel ac yn ddarbodus.
  • Byddwch yn gweithio gyda thîm sefydledig o ymarferwyr proffesiynol o bob rhan o’r diwydiant. Maent yn eich mentora yn ogystal â chynnig cyfleoedd rhwydweithio ac addysg o’r radd flaenaf i chi hefyd.
  • Byddwch hefyd yn cael cyfleoedd i gwrdd a gweithio’n agos gyda chyfarwyddwyr, cyfarwyddwyr cerddorol a choreograffwyr enwog, yn ogystal ag artistiaid gwadd. Mae’r cysylltiadau hyn yn eich helpu i feithrin cysylltiadau â’r diwydiant theatr gerddorol ac yn cynnig cipolwg gwerthfawr ar sut mae’r proffesiwn yn gweithredu.
  • Mae’r cysylltiadau cryf hyn â’r diwydiant yn sicrhau bod eich hyfforddiant yn cyd-fynd ag arferion proffesiynol cyfredol.
  • Bydd nifer o gyfleoedd i berfformio drwy gydol eich cwrs. Byddwch yn cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn amrywiaeth o rolau, gan gynnwys cabaret, gan arwain at gynhyrchiad theatr gerddorol wedi’i lwyfannu’n llawn sy’n adlewyrchu arferion a phrotocolau’r diwydiant.
  • Cynhelir ein perfformiadau arddangos blynyddol yng Nghaerdydd a’r West End yn Llundain, gan roi cyfle i chi berfformio gerbron cynulleidfa wadd o asiantau, cyfarwyddwyr castio a darpar gyflogwyr eraill.
  • Byddwch yn cymryd rhan mewn sesiynau ymarferol ar dechnegau clyweliad i baratoi ar gyfer clyweliadau llwyfan a theledu proffesiynol.
  • Byddwch yn cydweithio’n agos â’r adrannau cerddoriaeth, cynhyrchu a dylunio, fydd yn eich rhoi wrth galon ein cymuned greadigol amrywiol.

Gwybodaeth arall am y cwrs

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/privacy

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf