Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Diploma mewn Perfformio Llais i Raddedigion

  • Dyfarniad:

    Diploma mewn Perfformio Llais i Raddedigion

  • Corff dyfarnu:

    Prifysgol De Cymru

  • Lleoliad astudio:

    Caerdydd (CBCDC a’r Hen Lyfrgell)

  • Dyddiad dechrau:

    22 Medi 2024

  • Hyd:

    Blwyddyn amser llawn

  • Cod y cwrs:

    506F - UCAS Conservatoires

Cyflwyniad


Hyfforddiant canu clasurol un i un yw ffocws y cwrs hwn, sy’n addas fel rhaglen cyn cychwyn ar radd meistr neu fel blwyddyn ddwys o hyfforddiant lleisiol ar ei phen ei hun.

Trosolwg o’r cwrs

Mae hwn yn gwrs pontio delfrydol rhwng gradd bagloriaeth ac astudiaeth ar gyfer gradd meistr, ac mae’n llwybr ar gyfer cantorion talentog sy’n chwilio am astudiaeth bwrpasol a chymorth cyn astudio MMus Perfformio Cerddoriaeth.

Mae hefyd yn gyfle ar ei ben ei hun i astudio perfformio llais clasurol yn ddwys am flwyddyn i’r cantorion hynny sy’n dymuno gwella eu sgiliau a’u profiadau.

O’r wythnos gyntaf un, byddwch yn cael hyfforddiant pwrpasol, un i un gan hyfforddwr canu proffesiynol, a fydd yn eich helpu i sefydlu eich techneg llais clasurol a’ch persona perfformio unigol.

Yn ogystal â’ch gwersi llais, byddwch yn cael dosbarthiadau pwrpasol mewn drama a symud, yn ogystal ag ieithoedd allweddol operâu (Eidaleg, Almaeneg a Ffrangeg), gan ddysgu strategaethau ar gyfer astudio’r rhain yn annibynnol.

Bydd digonedd o gyfle i berfformio yn ein cyfleusterau o’r radd flaenaf er mwyn ategu eich hyfforddiant, gan ganiatáu i chi ymarfer y sgiliau rydych wedi’u datblygu a chynyddu eich stamina mewn amgylcheddau unigol ac ensemble.

Yn ein cymuned gerddorol hynod fywiog, byddwch yn dysgu dangos rhwyddineb technegol a cherddorol wrth i chi berfformio mewn ffordd unigol, yn hyderus ac yn gywir o ran arddull.

‘Mae’r Coleg yn teimlo fel lle i ymchwilio i sut fath o beth fydd dyfodol cerddoriaeth, yn ei holl ffurfiau, gan ofyn cwestiynau pwysig ein hoes am gerddoriaeth a drama.'
Errollyn WallenCyfansoddwr ac Artist Preswyl CBCDC

Pam astudio’r cwrs hwn?

  • Mewn llai na blwyddyn, byddwch yn ennill y sgiliau a’r profiad y bydd eu hangen arnoch i fodloni gofynion mynediad cyrsiau lefel meistr y conservatoire. Mae eich hyfforddiant hefyd yn rhoi’r sgiliau allweddol hynny i chi sy’n angenrheidiol ar gyfer y lefel hon o astudiaeth, gan gynnwys ymarfer myfyriol, meddwl yn feirniadol a gwaith ymchwil.
  • Mae ein cwrs yn caniatáu i chi ddatblygu eich doniau lleisiol mewn cyfnod byrrach heb y brentisiaeth estynedig sydd ei hangen ar gyfer astudiaethau offerynnol uwch eraill.
  • Byddwch yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant ar gyfer eich gwersi un i un a’ch holl ddosbarthiadau ategol, felly byddwch yn gwybod bod eich hyfforddiant yn addas i’r diben ac yn cyd-fynd â safonau’r diwydiant ar hyn o bryd.
  • Mae ein tîm addysgu’n cynnwys staff, tiwtoriaid a hyfforddwyr sy’n gweithio gyda’n myfyrwyr ôl-radd, gan ganiatáu i chi ddod i arfer â’r iaith, yr arferion gwaith a’r arddulliau dysgu ac addysgu sy’n angenrheidiol ar gyfer astudiaethau pellach.
  • Mae’r rhestr drawiadol hon o staff yn cynnwys offerynwyr ac unawdwyr lleisiol adnabyddus a cherddorion siambr, hyfforddwyr nodedig, cyfansoddwyr amlwg, arweinwyr ac artistiaid creadigol mewn amrywiaeth o genres - yn ogystal â’r prif chwaraewyr mewn ensembles a cherddorfeydd mawr. Byddant yn eich mentora ac yn cynnig cyfleoedd rhwydweithio i chi yn ogystal ag addysg o'r radd flaenaf.
  • Nid oes angen gradd mewn cerddoriaeth er mwyn ennill eich lle ar ein cwrs. Rydym yn croesawu cantorion clasurol o gefndiroedd heb fod yn conservatoire neu’r rheini heb unrhyw hyfforddiant lleisiol blaenorol i safon addysg uwch. Rydym wedi trefnu cyfres o ddosbarthiadau gallu cerddorol i helpu myfyrwyr o gefndiroedd heb fod yn draddodiadol i roi sylw i’r bylchau yn eu gwybodaeth.
  • Gallwch fynychu perfformiadau ein rhaglen gyhoeddus, dosbarthiadau meistr ag artistiaid adnabyddus, yn ogystal â digwyddiadau a gweithgareddau allanol, fel rihyrsals gwisgoedd gydag Opera Cenedlaethol Cymru.
  • Uchafbwynt eich cwrs fydd perfformio caneuon ac arias yn gyhoeddus, lle byddwch yn perfformio mewn o leiaf tair iaith (rhaid i ddwy ohonyn nhw fod yn Eidaleg a Saesneg).
  • Yn ogystal â’ch hyfforddiant lleisiol, byddwch yn datblygu’r sgiliau corfforol angenrheidiol a'r grefft llwyfan er mwyn cyfleu cymeriad yn ddilys wrth berfformio – mae’r rhain i gyd yn allweddol ar gyfer canu’n llwyddiannus.
  • Byddwch yn datblygu eich stamina perfformio eich hun mewn amrywiaeth o amgylcheddau unigol ac ensemble ac yn datblygu ymwybyddiaeth o waith ar y cyd mewn lleoliadau corawl ac operatig.
  • Byddwch hefyd yn astudio’r tair prif iaith canu opera (Eidaleg, Almaeneg a Ffrangeg) ac yn datblygu strategaethau ar gyfer dysgu’r rhain yn annibynnol.
  • Byddwch yn cael eich cyflwyno i amrywiaeth o arddulliau lleisiol i adlewyrchu cymhlethdod y deunyddiau sy’n ofynnol ar lefel meistr. Gan ddefnyddio geiriau llafar a thestun, gwaith byrfyfyr a hyfforddiant drama, byddwch yn magu hyder ac yn datblygu eich persona perfformio unigol.
  • Rydym yn cynnig cymorth iaith Saesneg i fyfyrwyr nad ydynt yn siaradwyr Saesneg brodorol, a bydd y cymorth hwn yn cael ei gynnig ochr yn ochr â’ch cwrs, yn ogystal â mynediad at ein cyrsiau Saesneg cyn sesiynau.
  • Er mwyn sicrhau eich bod yn teimlo eich bod yn cael eich cefnogi drwy gydol eich astudiaethau, bydd arweinydd eich cwrs yn fentor i’ch carfan fechan, sydd ddim ond yn cynnwys 10 myfyriwr. Bydd gennych gysylltiadau cryf â’n myfyrwyr lleisiol ôl-raddedig hefyd, drwy gyfrwng cynllun cyfeillio.
  • Byddwch yn dysgu mwy am gwrteisi proffesiynol a phrotocolau cysylltiedig yn y diwydiant, gan gynnwys sut i gyflwyno eich hun, yn ogystal â datblygu sgiliau hunanreoli effeithiol.

Gwybodaeth arall am y cwrs

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/privacy

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf