Amserlenni’r Cwrs
Bydd pob blwyddyn academaidd yn rhedeg o fis Medi i fis Gorffennaf ac fe’i rhennir yn dri thymor: hydref (12 wythnos), gwanwyn (12 wythnos) a haf (11 wythnos). Cyhoeddir amserlenni ar ddechrau pob tymor. Nid oes sesiynau addysgu yn ystod tymor yr haf, dim ond gwaith cynhyrchu.
Yr oriau addysgu craidd yw dydd Llun – dydd Gwener 9am-6pm a dylai myfyrwyr ddisgwyl bod yn rhan mewn dosbarthiadau a gweithgareddau eraill am hyd at 40 awr yr wythnos.
Yn ystod prosiectau cynhyrchu a lleoliadau, ac yn enwedig yn ystod cyfnod perfformiadau, bydd gweithgareddau ychwanegol gyda’r hwyr ac ar benwythnosau. Mae’r cynyrchiadau yn CBCDC yn rhai ar gyfer y cyhoedd ac maent yn rhoi profiad byd go iawn gwerthfawr i’r myfyrwyr. Yn ystod wythnosau rihyrsal a chynhyrchu, dylai’r myfyrwyr fod yn barod am y diwrnodau gwaith hirach a’r oriau anghymdeithasol sy’n ddisgwyliedig ar hyn o bryd ym myd theatr broffesiynol.
Addysgu a Dysgu
Trwy gydol eich hyfforddiant byddwch yn cael arweiniad a chefnogaeth gan dîm staff craidd sefydledig, gyda mewnbwn sylweddol gan ystod ehangach o ymarferwyr proffesiynol profiadol, gan gynnwys cyfarwyddwyr a goruchwylwyr cynhyrchu ar ymweliad.
Y tu allan i oriau cyswllt bydd disgwyl i chi ehangu eich dysgu a datblygu eich arfer creadigol drwy ddarllen yn eang, gwneud gwaith ymchwil personol a mynychu ystod eang o berfformiadau theatraidd.
Mae’r cwrs yn un trwm dros ben, a’i fwriad yw adlewyrchu, cyn agosed â phosibl, yr arfer a’r amodau a welir o fewn y diwydiant yn ehangach. Mae’n gofyn i chi arddangos a datblygu’r adnoddau corfforol, meddyliol ac emosiynol a’r stamina y bydd eu hangen arnoch i gynnal gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant theatr a digwyddiadau byw. Rhoddir cefnogaeth i ddatblygu gwytnwch i ddeunydd a allai effeithio arnoch.
Gall y Coleg gynnig cyngor proffesiynol a chyfrinachol ac ystod o gefnogaeth ymarferol er mwyn sicrhau y gall myfyrwyr ddechrau eu hastudiaethau yn CBCDC, gwneud cynnydd drwy eu cwrs, a graddio’n llwyddiannus.
Rydym yn cyflogi Cynghorydd Lles Meddwl, ac yn darparu mynediad am ddim at wasanaeth cwnsela cyfrinachol. Gall ein Cynghorydd Anabledd ddarparu cymorth i fyfyrwyr i wneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl, trefnu asesiadau anghenion a datblygu Cynlluniau Cefnogi Unigol, a allai gynnwys cefnogaeth tiwtorial arbenigol ychwanegol ar gyfer myfyrwyr sydd ag anawsterau dysgu penodol neu anghenion ychwanegol.
Mae gan Lyfrgell CBCDC dros 50,000 o eitemau sy’n cynnwys llyfrau, cylchgronau, papurau newydd a deunyddiau clyweledol. Mae’n gartref i gasgliad mwyaf y DU o setiau drama yn Saesneg y gellir eu benthyca. Hefyd yn y Llyfrgell gellir cael mynediad at adnoddau ar-lein, gan gynnwys cronfeydd data o destunau drama a recordiadau o gynyrchiadau theatr Prydeinig a rhaglenni dogfen tu ôl i’r llenni.
Asesiad ac Adborth
Asesir y mwyafrif o’r modiwlau yn barhaus. Mae’r meini prawf ar gyfer asesu yn adlewyrchu arferion gweithio yr amgylchedd proffesiynol, a’r sgiliau sydd eu hangen gan ei ymarferwyr.
Yn greiddiol i’r cwrs y mae lleoliadau cynhyrchu. Y rhain sy’n rhoi’r cyfle gorau i asesu eich cynnydd a pha mor barod ydych ar gyfer eich gyrfa. O gofio hynny, bydd gofyn i chi gynnal Cynllun Datblygu Personol (CDP). Bydd hwn y cynnwys Cynigion Amcanion Personol a hunanasesiadau a ysgrifennwyd gennych chi ar ddechrau a diwedd pob lleoliad, ynghyd ag asesiadau ysgrifenedig ffurfiol a ddarperir gan Oruchwylydd y Cynhyrchiad.
Seilir asesiad lleoliadau cynhyrchu ar y meini prawf canlynol:
- Cymhwysiad y sgiliau a addysgwyd i chi
- Eich agwedd tuag at dasgau a dyletswyddau a sut yr ydych yn ymateb i aelodau’r tîm
- Effeithiolrwydd eich arfer gweithio a’r dulliau a ddefnyddir gennych i sicrhau ansawdd eich gwaith
- Cywirdeb ac effeithiolrwydd eich cyfathrebu yn ysgrifenedig ac ar lafar
- Eich datblygiad drwy gydol y prosiect a’r modd yr ydych yn nodi targedau ar gyfer y dyfodol
Mae asesiad y modiwlau Ymchwil a Chyfathrebu yn cynnwys cyflwyniadau a thraethodau.
Mae dulliau asesu ar gyfer modiwlau eraill yn cynnwys ymarferion ymarferol, profion a gwaith prosiect.
Bydd myfyrwyr yn derbyn y canlyniad dosbarth gradd gorau o’r ddau ddull canlynol:
Dull 1: Cyfrifo cyfartaledd y marciau o’r 60 credyd gorau ar Lefel 5 (modiwlau cynhyrchu yn unig) a’r 120 credyd ar Lefel 6.
Dull 2: Cyfrifo cyfartaledd y marciau o’r 120 credyd Lefel 6.
- Er mwyn cael gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf, rhaid i fyfyrwyr gael cyfartaledd o 69.5% neu uwch
- Er mwyn cael gradd Anrhydedd Ail Ddosbarth Uwch, rhaid i fyfyrwyr gael cyfartaledd o 59.5% neu uwch
- Er mwyn cael gradd Anrhydedd Ail Ddosbarth Is, rhaid i fyfyrwyr gael cyfartaledd o 49.5% neu uwch
- Er mwyn cael gradd Anrhydedd Trydydd Dosbarth, rhaid i fyfyrwyr gael cyfartaledd o 39.5% neu uwch
Mae ystod o ddyfarniadau gadael amgen ar gael i fyfyrwyr sy’n methu cwblhau lefel astudiaeth.
Dylech ystyried eich deialog parhaus â thiwtoriaid yn ystod dosbarthiadau, prosiectau a chynyrchiadau y tu allan i diwtorialau ffurfiol sydd wedi’u hamserlennu i fod yn rhan hollbwysig o’r adborth yr ydych yn ei dderbyn drwy gydol y cwrs, a’r cyngor a fydd fwyaf defnyddiol i chi yn eich bywyd gweithiol yn y dyfodol.
Gallwch ddisgwyl derbyn adborth ffurfiol, naill ai’n ysgrifenedig neu ar lafar, o fewn 20 diwrnod i ddiwrnod olaf prosiect neu gynhyrchiad.
Cyhoeddir trawsgrifiadau academaidd ffurfiol ar ddiwedd pob blwyddyn academaidd.
Mae copi o’r rheolau a’r rheoliadau ar gyfer y cwrs hwn ar gael.