
Trosolwg
Drwy gefnogi CBCDC, byddwch yn chwarae rhan hollbwysig mewn meithrin doniau cenedlaethau o artistiaid y dyfodol.

Yn hyrwyddo creadigrwydd, yn dathlu Cymru ac yn cefnogi perfformwyr sy’n dod i’r amlwg.
Ers dros dri degawd mae Syr Bryn Terfel wedi bod yn cyfareddu cynulleidfaoedd â rhinweddau ei lais nerthol a’i gelfyddyd craff. Nawr mae’n troi ei sylw at gefnogi cenedlaethau’r dyfodol ac, yn 2023, dechreuodd weithio gyda’r Coleg i greu Cronfa Syr Bryn Terfel, er mwyn cefnogi perfformwyr sy’n dod i’r amlwg wrth iddynt hyfforddi a pharatoi ar gyfer eu gyrfaoedd.
Bydd y sefydliad yn cefnogi ysgoloriaethau a bwrsariaethau yn ogystal â phrosiectau a chomisiynau sy’n dathlu’r Gymraeg a diwylliant Cymru, gan gynnwys Gwobr y Gân ddwyflynyddol.