
Simon Phillippo
Pennaeth Allweddellau
Rôl y swydd: Pennaeth Perfformiad Allweddellau
Adran: Piano
Anrhydeddau: PhD; MPhil; MA

Astudiodd Simon Phillippo yn yr Academi Gerdd Frenhinol ac yng Ngholeg Gonville & Caius, Caergrawnt, ac mae wedi perfformio a darlledu’n helaeth ar hyd a lled y DU a thramor, fel datgeiniad, unawdydd concerto a chyfeilydd. Ac yntau’n gerddor siambr nodedig, mae Simon bob amser wedi ymroi ei fywyd cerddorol i berfformio ar y cyd ac yn rhyngddisgyblaethol ar y lefel uchaf, ac mae wedi croesawu cyfleoedd i berfformio fel pianydd yn ogystal ag arweinydd yn ystod ei yrfa.
Roedd Simon yn arweinydd, yn bianydd ac yn gôr-feistr gydag Opera Cenedlaethol Cymru am 14 mlynedd, ac mae wedi perfformio gyda cherddorfeydd a chwmnïau opera ym mhob cwr o’r byd. Mae hefyd yn gyfeilydd lleisiol amlwg, ac mae wedi perfformio repertoire amrywiol gyda rhai o gantorion gorau’r byd.
Yn ddiweddar, mae Simon wedi perfformio yn Neuadd Frenhinol Albert ac yn Neuadd Cadogan yn Llundain, yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd, ac yng Nghadeirlan Tyddewi (Gŵyl Gerdd Abergwaun). Fel arweinydd, mae wedi arwain cyngherddau gyda’r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, cerddorfeydd Opera North ac Opera Cenedlaethol Cymru, a Cherddorfa Helios yn Llundain, yn ogystal ag arwain dros 150 o berfformiadau opera ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru. Mae’n beirniadu’n rheolaidd mewn cystadlaethau a gwyliau piano, gan gynnwys Cerddor Ifanc y BBC a Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru.
Mae gan Simon ymroddiad gydol oes i berfformio yn ogystal â phroffil ymchwil prysur. Triawdau piano Joseph Haydn sy’n hoelio’r sylw yn ei brif ymchwil, ac mae ganddo ddiddordeb arbennig yn eu rôl fel canolbwynt cysylltiadau cymdeithasol preifat. Mae Simon yn adeiladu ar ei brofiad fel perfformiwr a cherddolegydd i ddatblygu dulliau beirniadol newydd o ymdrin â’r repertoire hwn, gan osod y triawdau mewn trafodaethau am rywedd, bywyd teuluol, emosiwn a chymdeithasgarwch i ailystyried y dehongliad o’r gerddoriaeth hon a’i derbyniad hanesyddol, gan hefyd ailddychmygu perfformio'r triawdau hyn mewn lleoliadau modern. Bydd gwaith Simon ar driawdau cynharaf Haydn yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir gan Wasg Prifysgol Caergrawnt, yn y gyfres, Elements in Music and Musicians, 1750–1850.
Hefyd, mae Simon yn golygu gweithiau siambr Robert Simpson ar gyfer Ricordi Berlin, ac yn cynhyrchu sgorau awdurdodol i’w perfformio ar sail archwiliadau manwl o lawysgrifau, recordiadau a chyhoeddiadau cyntaf y cyfansoddwr, a deunyddiau ychwanegol sy’n cael eu cadw mewn archifau yn Llyfrgell Bodleian a'r Llyfrgell Brydeinig.
Mae Simon yn arwain amrywiaeth eang o ddosbarthiadau perfformiadau piano, gan arbenigo mewn hyfforddi cerddoriaeth siambr, cyfeiliant lleisiol, repertoire opera, ac arwain. Mae’n arwain prosiectau astudio is-raddedig ar bynciau hanesyddol, dadansoddi, repertoire a dehongli, ac mae’n goruchwylio traethodau BMus yn gyson mewn amrywiaeth o feysydd pwnc.
Mae Simon yn arwain yr Adran Allweddellau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ers 2015, ac wedi creu cwrs deinamig sy’n canolbwyntio ar ragoriaeth bianyddol, gan fynd ati ar yr un pryd i gynnig hyfforddiant amrywiol a chyffrous ar yr holl sgiliau cerddorol sydd eu hangen i ffynnu yn y proffesiwn heddiw.
Hoffai Simon glywed gan ddarpar fyfyrwyr ymchwil doethurol sydd â diddordeb mewn pynciau cerddorol o’r 18fed ganrif, gan gynnwys Haydn, cerddoriaeth allweddellau, cerddoriaeth siambr, ac opera; neu elfennau o gerddoriaeth Brydeinig yr 20fed ganrif, yn enwedig Tippett, Britten a Simpson.
Llyfr
Cyhoeddiadau
Pennod mewn llyfr
Erthyglau mewn cyfnodolion
Erthyglau mewn rhaglenni