Stephen Wood
Repetiteur, Hyfforddwr Lleisiol, Tiwtor Opera, Cyd-Destunau Galwedigaethol
Rôl y swydd: Tiwtor Corn Tenor
Adran: Pres
Anrhydeddau: BA, PPRNCM
Yn enedigol o Bont-y-pŵl, mae Owen wedi datblygu o chwarae’r corn tenor ym mand y pentref i ennill cydnabyddiaeth fyd-eang fel unawdydd corn tenor mwyaf blaenllaw'r byd.
Yn dilyn chwe blynedd lwyddiannus gyda Band Fairey ac un mlynedd ar ddeg mlynedd gyda Band Cory, mae Owen bellach yn teithio’r byd fel unawdydd a chlinigwr ac yn dod â'r corn tenor i sylw cynulleidfa fyd-eang lawer ehangach.
Yn ogystal, mae Owen yn falch o'i ymroddiad parhaus i'r proffesiwn addysgu, a chydnabyddiaeth o hynny yw ei rolau hirsefydlog fel tiwtor corn tenor yn y Royal Northern College of Music, Birmingham Conservatoire a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ac fel tiwtor rhyngwladol Prifysgol Salford. Mae hefyd yn diwtor ar gyfer National Youth Brass Band of Great Britain, National Childrens Brass Band, Fermanagh/Tyrone Summer School a’r International Brass Band Summer School.
Mae Owen yn aml yn teithio'n rhyngwladol i berfformio ac ar hyn o bryd ef yw’r prif chwaraewr corn gyda'r band byd-enwog, Band of Battle Creek (UDA), yn ogystal â chwarae’r prif gorn ar gyfer y band uchel ei fri, Tubular Brass (y DU).
Mae'n cymeradwyo'n gryf yr hyn mae Besson Musical Instrument yn eu cynhyrchu, gan deithio i'w ffatri yn yr Almaen i brofi a rheoli ansawdd pob corn tenor cyn iddynt gael eu gwerthu. Mae Owen yn perfformio ar Besson Prestige 2050G ynghyd â darn ceg Owen Farr Alliance 2.