Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Charlie Smalley

Rhagenwau

Hi / Ei


Rôl y swydd: Goruchwyliwr Cynhyrchu Gwadd

Adran: Rheoli Llwyfan a Theatr Dechnegol

Anrhydeddau: BA Drama a Saesneg, Prifysgol Bryste MA Llenyddiaeth Fodern a Chyfoes, Prifysgol Manceinion

Bywgraffiad

Mae Charlie yn Rheolwr Llwyfan a chyhoeddwr sioe llawrydd ar gyfer theatr, pypedau, dawns a syrcas. Mae ganddi brofiad o weithio mewn swyddi Rheolwr Llwyfan Cwmni, Dirprwy Reolwr Llwyfan a Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol.

Mae hi wedi teithio’n rhyngwladol gydag amrywiaeth o sioeau, i leoliadau sy’n cynnwys St Ann’s Warehouse yn Efrog Newydd, Gŵyl Shakespeare Craiova yn Romania, Figurteatret i Nordland yn Norwy, Theatr Neuss Globe yn yr Almaen, a Chapiteau de Fontvieille ym Monaco.

Mae Charlie wedi gweithio’n helaeth gydag Emma Rice fel rhan o’i chwmni theatr, Wise Children, ac mae hi wedi gwneud sioeau gyda’r Bristol Old Vic, Theatre Royal Bath, Tobacco Factory Theatre, Orange Tree Theatre a Unicorn Theatre. Mae hi’n gweithio’n rheolaidd gyda Cirque Bijou, sef cwmni syrcas ym Mryste sy’n cynhyrchu partïon preifat ymdrochol mawr ac yn darparu gorymdeithiau a sioeau ar gyfer Camp Bestival.

Llwyddiannau nodedig

Mae Charlie wedi ennill Gwobr John Lavender am Ddrama gan Brifysgol Bryste.

Prosiectau diweddar

Ar hyn o bryd mae Charlie yn gweithio fel Dirprwy Reolwr Llwyfan ar gyd-gynhyrchiad o A Midsummer Night’s Dream rhwng y Royal Shakespeare Company ac Unicorn Theatre, dan gyfarwyddyd Rachel Bagshaw a Robin Belfield. 


https://www.rsc.org.uk/a-midsummer-nights-dream/

https://www.cirquebijou.co.uk/a-camp-bestival-blog/

Proffiliau staff eraill