Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Iain Ballamy

Rôl y swydd: Tiwtor Sacsoffon Jazz

Adran: Jazz

Bywgraffiad Byr

Mae Iain Ballamy yn adnabyddus yn rhyngwladol fel sacsoffonydd a chyfansoddwr.

Mae’n addysgwr uchel ei barch ac mae wedi’i ddisgrifio fel rhywun hynaws, gwreiddiol, melodig, digyfaddawd ac un sydd â meddwl agored.

Ac yntau wedi’i restru yng nghyhoeddiad y BBC, ‘100 Jazz Greats’, rhwng Count Basie a Chet Baker, mae ei waith yn gyfoes gyda chyfeiriadau jazz a chlasurol cryf, ond heb fod wedi’i lesteirio gan ffurfioldeb na thraddodiad.

Cyflwynwyd Gwobr Jazz y BBC am Arloesi i Ballamy yn 2001 ac ef oedd y cerddor jazz cyntaf i dderbyn gwobr cyfansoddwr Paul Hamlyn yn 2007.

Yng ngwanwyn 2017, gwnaeth y triawd llwyddiannus ‘Quercus’, sy’n cynnwys y gantores werin adnabyddus June Tabor ynghyd ag Iain Ballamy a’r pianydd Huw Warren, ryddhau Nightfall, eu hail albwm i ECM Records.

Fel cyfansoddwr, mae Ballamy wedi cyfansoddi traciau sain i ddwy ffilm a gyfarwyddwyd gan Dave McKean, Luna a Mirrormask, a chafodd yr ail o’r rhain ei chynhyrchu a’i rhyddhau’n fyd-eang gan The Jim Henson Company.

Arbenigedd

Fel unawdydd, mae Ballamy wedi perfformio Concerto for Stan Getz gan Richard Rodney Bennett gyda’r BBC Concert Orchestra a’r perfformiad cyntaf erioed o SET, concerto i’r sacsoffon gan Gary Carpenters, ar Radio 3 gyda’r BBC Philharmonic Orchestra cyn ei recordio i’w ryddhau ar CD gyda’r Royal Liverpool Philharmonic Orchestra yn 2018.

Mae Ballamy hefyd wedi cyfansoddi gwaith ar gomisiwn gan gynnwys darnau i’r London Sinfonietta, Apollo Saxophone Quartet a Joanna MacGregor.

Cyflawniadau Nodedig

Mae uchafbwyntiau ei yrfa yn cynnwys chwarae gyda’r Loose Tubes, Bill Bruford’s Earthworks, Hermeto Pascoal, Django Bates, Kenny Werner, Gil Evans, George Coleman, Cedar Walton, The Karnataka College of Percussion, John Taylor, Ian Shaw, Claire Martin, The Britten Sinfonia, Gay Dad, Everything but the Girl, Mike Gibbs, Carla Bley, John Dankworth, ac ati.

Yn ogystal ag addysgu yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, cafodd Ballamy ei urddo yn athro jazz cyntaf yn y Guildhall School of Music and Drama ym mis Ebrill 2020 ac fe’i anrhydeddwyd ag ARAM er Anrhydedd gan yr Academi Gerdd Frenhinol yn 2014.

Proffiliau staff eraill