Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Nikki Thomas

Rôl y swydd: Tiwtor Soddgrwth

Adran: Llinynnau

Anrhydeddau: PPRNCM

Bywgraffiad Byr

Dechreuodd Nikki Thomas ar ei haddysg gerddorol yn Chetham’s School of Music a’r Royal Northern College of Music, lle enillodd Wobr Soddgrwth Barbarolli a Gwobr Bach, gan fynychu’r Britten Pears School for Advanced Musical Studies a Prussia Cove. Astudiodd gyda William Pleeth a Jacqueline Du Pre.

Arbenigedd

Dechreuodd Nikki ar ei gyrfa lawrydd yn Llundain gan weithio gyda'r London Mozart Players, London Bach Orchestra, BBC Symphony Orchestra ac Academy of St. Martin-in-the-Fields gan deithio'n rhyngwladol a chwarae yn y prif leoliadau yn Efrog Newydd, Chicago, LA, Japan, Hong Kong ac Ewrop.

Bu Nikki yn gerddor siambr prysur trwy gydol ei hoes, yn rhoi nifer o gyngherddau ensemble a thriawd piano yn y DU ac Ewrop. Symudodd i Gymru i fagu ei mab, gan gyd-sefydlu a dod yn Gyfarwyddwr Artistig ysgol siambr haf, gan weithio’n llawrydd gydag Opera Cenedlaethol Cymru, rhoi datganiadau fel deuawd ac addysgu. Mae wedi cael gwaith wedi'i gomisiynu ar ei chyfer ac wedi'i recordio ar gyfer Signum Records.

Mae wedi ymroi i’w hymarfer addysgu yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, gan anelu at helpu pob myfyriwr yn eu hymgais gerddorol unigol a’u datblygiad offerynnol, gan gredu yn y posibilrwydd y gall cerddoriaeth gyfoethogi bywydau pob un ohonom.

Proffiliau staff eraill