Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Tim Richards

Rôl y swydd: Darlithiwr Uwch mewn Canu (Theatr Gerdd), Athro Llais

Adran: Theatr Gerddorol

Anrhydeddau: LRWCMD, ARWCMD, PGCE, EMT, EMCI (Mentor Estill a Hyfforddwr y Cwrs)

Gweld eu gwaith:

Bywgraffiad Byr

Tim yw un o’r athrawon canu mwyaf blaenllaw sy’n gweithio yn y Deyrnas Unedig, yn Ewrop ac yn fyd-eang. Mae’r profiad, yr arbenigedd a’r angerdd y mae’n ei gynnig i’w holl waith yn golygu ei fod ymhlith yr athrawon y mae mwyaf o alw amdanynt.

Astudiodd yn glasurol a chanodd yn broffesiynol yn y repertoire clasurol cyn symud i faes Theatr Gerddorol a chanu yn y West End cyn iddo ddechrau addysgu Theatr Gerddorol ac yn glasurol mewn sefydliadau blaenllaw. Mae Tim yn creu cyswllt rhwng addysgeg draddodiadol â hyfforddiant ffisiolegol ac acwstig modern.

Gall Tim nodi’n union beth sydd ei angen ar bob canwr i ddatblygu eu sgiliau a’u cyswllt â’u dull o gyfathrebu, boed yn fyfyrwyr dan hyfforddiant neu’n gantorion proffesiynol profiadol. Mae’n gweithio ar draws genres Theatr Gerddorol a Chlasurol ac mae ar flaen y gad o ran hyfforddiant modern i gantorion.

Y mae hefyd yn un o grŵp elît o athrawon canu sydd â chymhwyster Mentor a Hyfforddwr Cwrs Estill yn y Deyrnas Unedig. Ef oedd y person cyntaf yng Nghymru i gymhwyso ac ef yw’r unig un o Gymru sydd â chymhwyster yr EMCI yn y model hyfforddiant llais byd-enwog a ddatblygwyd gan Jo Estill. Y mae’n unigryw fel athro canu sy’n gweithio ar draws rhaglenni Theatr Gerddorol a Chlasurol ar lefel conservatoire.

Arbenigedd

Mae gan Tim lefel elît o arbenigedd mewn gweithio gyda chantorion ar y llwyfan. Boed yn gantorion Opera neu gantorion Theatr Gerddorol, mae’n deall sut i gysylltu symudiad cyhyrau a chanlyniad acwstig. Yr hyn sy’n ei wneud yn wirioneddol unigryw yw y gall hefyd wneud y cyswllt â’r ennyd naratif yn y genre. Mae’r cyswllt hwn o’r grefft i’r artistwaith yn caniatáu iddo weithio â chywirdeb a chyflymder i helpu cantorion i gyflawni eu nodau o ran naratif lleisiol. Gall eu helpu i hyfforddi’r cyhyrau, fel nad ydynt yn siomi’r dychymyg.

Ym myd Opera, mae Tim wedi gweithio gyda chantorion o dai opera blaenllaw ledled Ewrop. Ym myd Opera a Theatr Gerddorol, mae Tim wedi hyfforddi llawer o sioeau a rolau gan weithio gyda pherfformwyr elît.

Mae’n gweithio gydag artistiaid adnabyddus sy’n recordio gyda Sony International, yn ogystal ag X Factor, Britain’s Got Talent, Australian X Factor, The Today Show New York a phrosiect y BBC i ddod o hyd i Nancy.

Mae Tim yn gweithio fel hyfforddwr ac ymgynghorydd i athrawon yn ysgol theatr Mountview, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, yr Academi Gerdd Frenhinol, Academi Sibelius, Helsinki, Italia Conti, Arts Educational School, The Royal Central School of Speech and Drama, ynghyd â llawer o gyrsiau prifysgol ledled Ewrop a’r byd.

Cyflawniadau Nodedig

Ef yw’r unig Fentor a Hyfforddwr Cwrs Estill (EMCI) yng Nghymru a’r unig un sy’n gweithio ym meysydd Clasurol a Theatr Gerddorol ar lefel conservatoire.

Mae’n un o’r ychydig athrawon canu ar lefel conservatoire yn y Deyrnas Unedig a all weithio ar draws yr adrannau Theatr Gerddorol a Chlasurol. Mae hyn am iddo hyfforddi’n glasurol i gychwyn cyn symud i fyd Theatr Gerddorol. Rhoddodd hyn ddealltwriaeth iddo o’r cyd-destun a’r cymhwyso sy’n rhan o gysylltu addysgeg draddodiadol a hyfforddiant ffisiolegol ac acwstig mwy modern.

Mae’n athro canu i lawer o gantorion pennaf y West End, gan weithio yn y prif sioeau cerdd fel Wicked, Les Miserables, Phantom of the Opera a llawer mwy.

Dolenni i ymchwil / prosiectau perthnasol

Proffiliau staff eraill