Tic Ashfield-Fox
Tiwtor mewn Cyfansoddi gyda Thechnoleg Cerddoriaeth Greadigol
Rôl y swydd: Tiwtor Trombôn
Adran: Jazz
Trombonydd jazz, cyfansoddwr ac athro sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd yw Gareth Roberts. Ers graddio o CBCDC yn 2005 gyda PG Dip mewn perfformio jazz mae Gareth wedi gweithio’n broffesiynol fel cerddor jazz, cyfansoddwr ac athro cerddoriaeth.
Mae Pumawd Gareth Roberts wedi rhyddhau dau albwm o gyfansoddiadau gwreiddiol sydd wedi derbyn canmoliaeth y beirniaid; enillodd un o’r albymau wobr Jazz Services UK.
Yn 2013 dyfarnwyd bwrsariaeth Jazz4Jed i Gareth i’w alluogi i astudio trefnu a chyfansoddi ar gyfer Bandiau Mawr. Aeth ymlaen i ysgrifennu pedwar cyfansoddiad band mawr gwreiddiol ar gyfer Cerddorfa Capital City Jazz, y mae’n un o’i sylfaenwyr. Mae dau o’r darnau hyn wedi ennill gwobrau cyfansoddi yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
Mae Gareth wedi mynd ymlaen i ysgrifennu llawer mwy o gyfansoddiadau gwreiddiol ar gyfer Cerddorfa Jazz. Cyhoeddwyd tri o’r rhain yn ddiweddar gan Warwick Music.