Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Huw Warren

Rôl y swydd: Tiwtor Piano Jas, Tiwtor Dawn Gerddorol a Byrfyfyrio Allweddellau

Adran: Jazz

Bywgraffiad Byr

Pianydd a chyfansoddwr o Gymru yw Huw Warren, ac mae ganddo enw da yn rhyngwladol am greu cerddoriaeth arloesol ac eclectig. Mae ei chwarae a’i gyfansoddiadau wedi ymddangos ar rai o brif lwyfannau’r byd yn ogystal â chael eu darlledu’n aml. Mae Huw wedi ymddangos ar fwy na 50 o recordiadau, gan gynnwys cyfres o albymau hynod unigol o dan ei enw ei hun. Yn ganolog i’w ddull o addysgu jazz y mae’r diffiniad ehangaf posibl o’r genre, a ffocws ar ddatblygu’r llais unigol wrth fyrfyfyrio a chyfansoddi.

Arbenigedd

Mae Huw yn artist recordio i labeli Ewropeaidd blaenllaw ECM a CAM Jazz, ac mae hefyd yn cydweithio’n greadigol â’r cantorion June Tabor a Maria Pia de Vito a’r sacsoffonyddion Iain Ballamy a Mark Lockheart. Yn un o gyd-sylfaenwyr y band dylanwadol Perfect Houseplants yn y 1990au, roedd Huw yn rhan o grŵp o gerddorion jazz ym Mhrydain a oedd yn edrych am synau a dulliau newydd o ddylanwadau amrywiol. Bu cerddoriaeth Brasil yn rhan bwysig o’i fywyd cerddorol, gan wneud recordiadau helaeth o gerddoriaeth Hermeto Pascoal a chydweithio’n ddiweddar â Jovino Santos Neto, Adriano Adewale a Carlos Malta. Yn 2017, cafodd y cyfle i recordio gyda Maria Pia de Vito, Roberto Taufic a’r chwedlonol Chico Buarque o Brasil. Mae Huw yn cyfarwyddo Ensemble Brasilaidd CBCDC.

Cyflawniadau Nodedig

Dyfarnwyd y wobr BBC Jazz am Arloesedd a Gwobr Cymru Greadigol Cyngor Celfyddydau Cymru i Huw. Mae wedi ysgrifennu i lawer o ensembles gan gynnwys cerddorfeydd, corau, bandiau mawr, bandiau pres, ac arholiadau Jazz ABRSM. Mae Huw hefyd yn feirniad ar gystadleuaeth Cerddor Jazz Ifanc y BBC ac yn Bennaeth Ensembles Jazz ym Mhrifysgol Caerdydd.

Proffiliau staff eraill