Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Ant Law

Rôl y swydd: Tiwtor gitâr a hyfforddwr ensemble

Adran: Jazz

Gweld eu gwaith:

Bywgraffiad

Mae’r gitarydd o Brydain sy’n seiliedig yn Llundain yn ‘game changer’ yn ôl The Guardian. Rhyddhawyd ei bumed albwm, Same Moon in the Same World, yn 2022. Yn ogystal ag arwain ei brosiectau ei hun, mae Ant yn chwarae ym mand Tim Garland gyda Jason Rebello ac Asaf Sirkis, gan ymddangos ar yr albymau Songs To The North Sky, Return To The Fire a ONE a oedd ar restr fer gwobr Grammy ac a enillodd wobr Albwm Gorau Jazzwise.

Ant hefyd yw’r ‘L’ yn Trio HLK sy’n recordio/teithio gyda’r Fonesig Evelyn Glennie. Gweithiodd gyda cherddorion nodedig eraill fel Cory Henry a Thomas Gould ac mae’n aml yn ymddangos yng nghylchgronau Total Guitar, Guitar Techniques a Guitarist. Yn Guitarist, cafodd ei gynnwys mewn rhestr o ‘10 Astounding Virtuosos’, ac mae rhifyn Mai 2021 Guitar Techniques yn cynnwys erthygl ddwy dudalen am Ant, ac adolygiad o 9/10 am The Sleeper Wakes.

Bu Law yn astudio Ffiseg ar ysgoloriaeth ym Mhrifysgol Caeredin. Yn yr haf cyn ei flwyddyn olaf yno, treuliodd semester yr haf yng Ngholeg Cerdd Berklee, Boston. Erbyn hynny, roedd Ant wedi darganfod a dechrau defnyddio dull tiwnio’r 4ydd Perffaith i’r gitâr. Ysgrifennodd Ant lyfr yn cyflwyno’r dull tiwnio, sef 3rd Millenium Guitar a gyhoeddwyd gan Mel Bay.

Addysgu

Yn ogystal â’i waith yn CBCDC, mae Ant yn addysgu ac yn arholi’n rheolaidd yn yr Academi Gerdd Frenhinol ac Ysgol Gerdd a Drama Guildhall yn Llundain. Mae wedi addysgu gweithdai a dosbarthiadau meistr yng Ngholeg Cerdd Leeds, Prifysgol Leeds, Prifysgol Durham University a Phrifysgol Newcastle.

Proffiliau staff eraill