Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Angus West

Rôl y swydd: Tiwtor Corn Ffrengig

Adran: Pres

Anrhydeddau: GRNCM, PPRNCM

Bywgraffiad Byr

Dechreuodd Angus West chwarae’r corn yn un ar ddeg oed ac ar ôl cael gwersi gydag Eric Stevenson a Hugh Potts (y ddau yn gyn chwaraewyr corn y Northern Sinfonia Orchestra), aeth i’r Royal Northern College of Music ym Manceinion ym 1978.

Tra’r oedd ym Manceinion, astudiodd Angus gyda Michael Purton, (Chwaraewr Corn 1af gyda’r Halle Orchestra) a dechreuodd ar yrfa lawrydd brysur, gan weithio gyda Cherddorfeydd Halle, BBC Northern/Philharmonic, Royal Liverpool Philharmonic a Northern Sinfonia.

Arbenigedd

Dechreuodd Angus yn ei swydd gyntaf, 3ydd chwaraewr corn gydag Opera North, ym 1982, cyn symud ymlaen i Gerddorfa Halle fel Prif Chwaraewr Corn Cynorthwyol ym 1986. Yn dilyn cyfnodau prawf gyda Cherddorfa Symffoni Llundain a Cherddorfa Cenedlaethol yr Alban, dechreuodd Angus yn ei swydd bresennol fel Prif Chwaraewr Corn ac Arweinydd Adran gydag Opera Cenedlaethol Cymru ym 1990.

Fel unawdydd mae Angus wedi perfformio 2il a 3ydd concerto Mozart yn ogystal â'r Symphonia Concertante a’r 4ydd concerto gyda Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru. Mae Angus hefyd wedi perfformio Serenade for Tenor, Horn and Strings gan Britten yn Bradford, Aberhonddu, a Milton Keynes yn ogystal â chyda Cherddorfa Symffoni Bochum yn yr Almaen. Yn ogystal, mae Angus wedi perfformio concerto 1af Strauss a choncerto Gliere gyda Cherddorfa Symffoni Dinas Caerdydd.

Mae Angus wedi addysgu’r Corn Ffrengig yn Chetham’s School of Music, Royal Northern College of Music, Birmingham Conservatoire a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Proffiliau staff eraill