Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Lesley Hatfield

Rôl y swydd: Tiwtor Feiolin

Adran: Llinynnau

Anrhydeddau: MA cantab., Dip. RAM, FRAM, FRWCMD

Bywgraffiad Byr

Mae gan Lesley Hatfield fywyd cerddorol amrywiol, wrth iddi gyfuno ei rôl fel Blaenwr Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC â cherddoriaeth siambr, unawdau ac addysgu. Drwy ei ddiddordebau cerddorol eang, mae’n perfformio cerddoriaeth o bob cyfnod ac mae wedi cydweithio’n agos â llawer o gyfansoddwyr cyfoes.

Arbenigedd

Ar ôl graddio o Goleg Clare, Caergrawnt, astudiodd yn yr Academi Gerdd Frenhinol. Yn gynnar yn ei gyrfa, fel cerddor siambr ac aelod o Gerddorfa Siambr Ewrop, gweithiodd gyda Sandor Vegh a Nicholas Harnoncourt, ac mae’r ddau wedi dylanwadu’n fawr ar ei dulliau cerddorol. Cyn derbyn ei swydd bresennol, roedd yn Gyd-Flaenwr y Northern Sinfonia ac yn Flaenwr Ulster Orchestra.

Mae cerddoriaeth siambr wastad wedi bod yn rhan bwysig o fywyd cerddorol Lesley. Mae’n aelod o’r Gaudier Ensemble, sydd wedi derbyn llawer o glod, a chaiff ei gwahodd yn rheolaidd i gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o wyliau cerddoriaeth siambr. Bu’n berfformiwr gwadd rheolaidd yn yr International Musicians Seminar Open Chamber Music yn Prussia Cove ers 1986.

Ymddangosodd fel Blaenwr, unawdydd a chyfarwyddwr gwadd gyda llawer o gerddorfeydd ledled y Deyrnas Unedig ac yn Ewrop. Mae wedi recordio ar gyfer labeli Chandos a Naxos, ac mae i’w chlywed ym aml ar BBC Radio 3.

Mae galw mawr am Lesley fel addysgwr, ac mae’n gweithio’n ddyfal fel Noddwr ‘Making Music, Changing Lives’, elusen sy’n seiliedig yng Nghaerdydd ac sydd â’r nod o drawsnewid bywydau plant a’u cymunedau, drwy gerddoriaeth a thrwy ddarparu’r cyfle i ddysgu offerynnau cerddorol. Yn ddiweddar, cafodd ei phenodi’n Ymddiriedolwr yr Albert and Eugenie Frost Trust.

Cyflawniadau Nodedig

Mae Lesley yn Gymrawd yr Academi Gerdd Frenhinol a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Proffiliau staff eraill