
Rhian Langham
Aelod y Bwrdd
Rôl y swydd: Agent for Change
Yn 2024 daeth Bridie yn Asiant dros Newid gyda Craidd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i eiriol dros sector theatr sy’n fwy cynhwysol a hygyrch i bobl anabl, Byddar a niwroamrywiol. Daw ag angerdd dros fynediad creadigol ynghyd â’i phrofiad byw o anabledd a phrofiad o ymarfer theatr i’r rôl hon.
Artist o Gymru yw Bridie sy’n creu gosodiadau celfyddydol trochol a theatrig gyda dodrefn, barddoniaeth a sain. Ar ôl hyfforddi mewn Dawns, sefydlodd Citrus Arts, elusen syrcas, dawns a chelfyddydau awyr agored lle bu’n Gyd-gyfarwyddwr am 15 mlynedd. Yn y rôl hon creodd gynyrchiadau theatr gwyliau, safle-benodol a theithiol a datblygodd brosiectau addysg a datblygu cymunedol. Roedd y rhain yn cynnwys gwaith gyda Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Canolfan Genedlaethol Celfyddydau Syrcas, Walk The Plank, Theatr Cymru, Ballet Cymru, Arts Active, Cyngor Celfyddydau Cymru, Circomedia a Phrifysgol Bath Spa.
Yn 2021 sefydlodd Stiwdio-C, stiwdio clustogwaith creadigol lle mae hi wedi bod yn creu gosodiadau celf sy’n cyfuno ei diddordeb mewn celfyddyd gain a pherfformio. Mae prosiectau diweddar wedi cynnwys labordy creadigol i artistiaid anabl, Byddar a niwroamrywiol i gydweithio ar waith hygyrch a arweinir gan y Gymraeg, gosodiad dodrefn a seinwedd trochol personol iawn am bwnc colli golwg a gosodiadau dodrefn stryd i ysgogi trafodaeth am sbwriel a marwolaeth y stryd fawr.