Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Bartosz Woroch

Rôl y swydd: Tiwton Feiolin

Adran: Llinynnau

Bywgraffiad Byr

Mae Bartosz Woroch, y feiolinydd o Wlad Pwyl, wedi ennill gwobrau mewn cystadlaethau rhyngwladol mawr, gan gynnwys Pablo Sarasate yn Sbaen, a Michael Hill yn Seland Newydd. Fel unawdydd, mae Bartosz wedi perfformio gyda cherddorfeydd ar draws y byd, gan gynnwys y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, Cerddorfa Ffilharmonig Auckland, Cerddorfa Symffoni Bern, Cerddorfa Symffoni Bournemouth a Cherddorfa Radio Gwlad Pwyl, gydag arweinwyr fel Michael Tilson Thomas, Libor Pešek, Lukasz Borowicz a Henk Guittart.

Fel cerddor siambr ymroddedig, mae Bartosz wedi cydweithio ag amrywiaeth o artistiaid, gan gynnwys Pekka Kuusisto, Sting, Caroline Palmer, Uri Caine, Nicholas Daniel, Jorg Widmann, Piotr Anderszewski, a’r cyfarwyddwr llwyddiannus, Tom Morris.

Cyflawniadau Nodedig

Mae ei gryno-ddisg cyntaf, sef ‘Dancer on a Tightrope’, a’i ddisg concerto 'ConNotations’ gyda Britten Sinfonia a’r pianydd Mei Yi Foo, wedi cael llawer o glod.

Bartosz Woroch

Proffiliau staff eraill