Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Nancy Johnson

Rôl y swydd: Tiwtor Fiola

Adran: Llinynnau

Anrhydeddau: MusB (Anrh), GRNCM, MM

Bywgraffiad Byr

Graddiodd Nancy Johnson o The Juilliard School, lle cwblhaodd ei gradd Meistr, a’r cwrs ar y cyd rhwng Prifysgol Manceinion a’r Royal Northern College of Music. Ymhlith ei hathrawon roedd Hilary Hart, Susie Meszaros a Toby Appel ac mae wedi perfformio mewn dosbarthiadau meistr gydag Itzhak Perlman, Thomas Riebl a Diemut Poppen.

Arbenigedd

Mae Nancy wedi perfformio fel cerddor siambr yn Alice Tully Hall a Carnegie Weill Hall fel fiolydd y Degas String Quartet, gan fod yn Bedwarawd graddedig preswyl ym Mhrifysgol Syracuse, NY. Daeth Nancy yn aelod o’r Tavec Quartet, gan fynychu'r Academi Ewropeaidd ar gyfer Pedwarawdau Llinynnol a pherfformio yn Wigmore Hall. Mae Nancy hefyd wedi mynychu Prussia Cove, y Salzburg Sommer Akademie a Gŵyl Gerdd Sarasota.

Fel cerddor cerddorfaol, mae Nancy yn perfformio’n bennaf gyda’r London Symphony Orchestra a chyda llawer o gerddorfeydd ac ensembles siambr eraill gan gynnwys BBC Symphony Orchestra, Royal Philharmonic Orchestra, English Chamber Orchestra ac Academy of St Martin in the Fields. Mae ymrwymiadau blaenorol Nancy a’r rhai sydd ar y gweill yn cynnwys perfformio operâu cyfoes a chlasurol ar raddfa fach gyda Music Theatre Wales, Birmingham Opera Company, Opera Cenedlaethol Cymru a chynhyrchiad cyntaf Opera’r Ddraig o Bhekizizwe gan Robert Fokkens.

Mae Nancy yn aelod o Triocca, y Bloomer Piano Quartet a Zoltan Ensemble. Mae Triocca wedi perfformio a chynnal gweithdai a dosbarthiadau meistr yn rhyngwladol ac wedi ymddangos ar deledu a radio. Mae eu CD Lyric FM yn cynnwys gweithiau a gomisiynwyd yn arbennig. Yn 2020 rhyddhaodd Naxos CD o weithiau siambr Pedro Faria Gomes, ac mae Nancy yn perfformio arni.

Proffiliau staff eraill