
Odilon Marcenaro
Uwch Ddarlithydd mewn Cyfansoddi a Thechnoleg Cerddoriaeth

Mae Ashley John Long yn gyfansoddwr, basydd dwbl a darlithydd. Mae ei gerddoriaeth wedi cael ei pherfformio gan nifer o unawdwyr ac ensembles gan gynnwys Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Cerddorfa Ffilharmonig Llundain, UPROAR, Chromatophonic Trio, Trio Anima a Sond’Ar-te. Fel basydd dwbl mae’n perfformio’n rhyngwladol gan arbenigo mewn cerddoriaeth gyfoes, byrfyfyrio a jazz ac yn gweithio gydag ystod amrywiol o ensembles yn ogystal â pherfformio datganiadau fel unawdydd. Mae hefyd yn weithgar fel addysgwr ac yn ddarlithydd mewn cerddoleg, cyfansoddi a pherfformio yn Ysgol Gerddoriaeth Prifysgol Caerdydd. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys ymarfer perfformio cyfoes a chyfansoddi cyfoes.
Cyfansoddi nodiannol; sgorio graffig a chyfansoddi penagored; rhyngweithiad cyfansoddwr/perfformiwr; ymarfer perfformio cyfoes; technegau estynedig.
Yn ddiweddar recordiwyd ei goncerto ar gyfer y ffliwt '…and then was gone' gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC gyda Matthew Featherstone yn unawdydd. Dewiswyd ei waith siambr 'Beyond the Haze of Winter’s Edge' i gynrychioli Cymru yn Nyddiau Cerddoriaeth Newydd y Byd ISCM yn 2025. Mae wedi derbyn gwobrau am gyfansoddi a pherfformio, ac mae ei waith yn y ddau faes i’w clywed ar dros 70 o albymau ac ar gael ar labeli sy’n cynnwys Ubuntu, Signum Classics, FMR, Discus a Confront.
Mae’n gymrawd yr Academi Addysg Uwch.