Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn gweithio’n agos gyda Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC i roi profiad go iawn i fyfyrwyr o’r diwydiant cerddoriaeth wrth iddyn nhw astudio. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n helpu i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o gerddorion, perfformwyr a gweithwyr proffesiynol ym maes y celfyddydau, ar yr un pryd â chreu mwy o gyfleoedd i bobl ledled Cymru brofi a chymryd rhan mewn cerddoriaeth.