Neidio i’r prif gynnwys

Cynadleddau a chyfarfodydd

Mae ein hamrywiaeth boblogaidd o gyfleusterau cynadledda a chyfarfod wedi denu digwyddiadau a chyfarfodydd mawr, megis y rhai ar gyfer NATO, cynhadledd ryngwladol yr Academi Farchnata, cynhadledd Cymdeithas Ewropeaidd y Llyfrgelloedd Gwybodaeth Iechyd ac arddangosfa World Stage Design.

Cynllunio digwyddiadau proffesiynol


Yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, cewch gefnogaeth ein tîm llawn, a fydd yn cynnig gwasanaethau cynllunio digwyddiadau proffesiynol, cefnogaeth dechnegol brofiadol ac arbenigol, arlwyo heb ei ail, gofal cwsmeriaid croesawus a doniau perfformio disglair.

Lleoliadau Cynadledda

Mae ein cyfleusterau sydd ar gael yn egsgliwsif i chi yn cynnwys Neuadd Dora Stoutzker (hyd at 400 o gynadleddwyr), Theatr Richard Burton (hyd at 180 o gynadleddwyr), Theatr Bute (160 o gynadleddwyr), deg ystafell ymneilltuo a chyfarfod, oriel arddangos amlbwrpas a chyntedd gwydr cyfoes syfrdanol ar gyfer hyd at 500 o gynadleddwyr. Mae Wi-Fi ar gael ledled ein lleoliadau, sydd hefyd yn cynnwys caffi, bar a theras awyr agored yn edrych allan dros y parciau hardd o gwmpas Castell Caerdydd.

Yn croesawu pawb, unrhyw le, yn ddigidol

Mae cael cynhadledd hybrid byw ac ar-lein yn y Coleg yn agor y drws i niferoedd cynyddol o gynrychiolwyr, cyflwynwyr ar-lein a gwesteion anghysbell lle bynnag y bônt – gan eich helpu i estyn y tu hwnt, ymestyn eich neges, lleihau costau teithio a chwrdd â’ch cyfrifoldebau amgylcheddol.

Gyda’n technoleg fewnol 21ain ganrif Planet eStream, bydd ein technegwyr medrus a phrofiadol yn eich cynorthwyo gydag ystod o opsiynau digidol i weddu’r profiad byw ac ar-lein i’ch digwyddiad unigryw:

  • ffilmio eich digwyddiad gyda chipio aml-gamera
  • cynhyrchu sesiynau wedi’u recordio i’w harchifo neu i’w gwylio ar-lein 24/7
  • ffrydio prif siaradwyr yn fyw o leoliadau anghysbell
  • croesawu cynrychiolwyr o bell trwy Skype, Teams a Zoom
  • cynnwys cyfranogwyr anghysbell mewn ystafelloedd sgwrsio rhithwir, rhwydweithio ac adborth
  • trosglwyddo cyflwyniadau cydamserol o ansawdd darlledu i ystafelloedd ymneilltuo
  • Wi-Fi am ddim i’r holl gynrychiolwyr, trefnwyr ac arddangoswyr
  • Cewch gefnogaeth gadarn gan ein tîm digwyddiadau mewnol profiadol a fydd wrth law i’ch helpu i gynllunio a rhedeg y diwrnod.

Cipolwg ar du mewn ein hadeilad

Cynadleddau gyda chwa greadigol

Mae ein cerddorion yn diddanu teuluoedd brenhinol, arweinwyr gwladwriaethau a gwesteion nodedig. Gall triawd jazz, ensemble cerddoriaeth glasurol neu hyd yn oed berfformiad o frwydro llwyfan gan berfformwyr dawnus roi agwedd greadigol i’ch derbyniad diodydd neu ginio cynhadledd.

Argaeledd

Mae ein lleoliadau cynadledda a chyfarfodydd ar gael yn egsgliwsif i chi o ganol mis Gorffennaf hyd at ganol mis Medi, o ddechrau Rhagfyr tan ddechrau Ionawr ac yn ystod mis Ebrill. Ar gyfer digwyddiadau penwythnos, mae’n bosib y bydd y lleoliadau ar gael gydol y flwyddyn.

Arlwyo

Gallwch ddisgwyl ansawdd heb ei ail gan ein harlwywyr mewnol, sy’n gyson yn cael canmoliaeth uchel am eu lluniaeth, eu ciniawau, eu derbyniadau diodydd a’u ciniawau mawreddog ffurfiol.

Mae ein cogyddion yn gweithio gyda chynhyrchwyr lleol a chyflenwyr Masnach Deg i ychwanegu blas Cymreig unigryw i’ch diwrnod a lleihau ein hôl troed carbon.

Llety ac atyniadau’r ddinas

Mae ein lleoliad mewn parc prydferth yn agos at ganol prifddinas Caerdydd yn creu cynnig unigryw i gynadleddwyr, gyda chanolfannau siopa godidog, arcedau Fictoraidd, theatrau hanesyddol, sinemâu cyfoes, amgueddfeydd cenedlaethol a glannau dramatig. Mae Caerdydd hefyd yn cynnig amrywiaeth llawn o opsiynau llety – o westai moethus i lety bwtîc annibynnol a gwestai pris rhesymol.

Gellir trefnu llety dros nos yng ngwestai a thai llety’r brifddinas ar gyfer dros 150 o gynadleddwyr am gyfraddau cystadleuol iawn drwy Swyddfa Cynadledda Caerdydd.

Beth mae ein cwsmeriaid yn ei ddweud amdanom

'Roedd Neuadd Dora Stoutzker yn lleoliad gwirioneddol wych ar gyfer y gystadleuaeth ac mae’r adborth a gawsom gan yr holl gystadleuwyr, eu hathrawon, eu rhieni a’n beirniaid yn adlewyrchu hyn.'
Cerddor Ifanc y BBCGolygydd Gweithredol
Roedd proffesiynoldeb a chwrteisi'r staff heb eu hail. Roedd perfformiad myfyrwyr a staff CBCDC, yn gerddorol a chymdeithasol, yn rhyfeddol ac rwyf wedi derbyn llu o e-byst a galwadau dros y diwrnodau diwethaf yn dweud cymaint roedd pawb wedi mwynhau.
Cymdeithas Trombôn PrydainTrefnydd

Ein mannau cynadledda mwyaf poblogaidd


Archwilio’r adran