Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Gweithio gyda’r gymuned: Cynllunio gyda Chanolfan Oasis, Caerdydd

Treuliodd Ruth Norwood ac Amelia O’Toole, myfyrwyr ar flwyddyn olaf y cwrs Cynllunio ar gyfer Perfformio, y tymor diwethaf yn gweithio gyda’r gymuned ffoaduriaid a cheiswyr lloches, gan gynnal gweithdai creadigol ar gyfer pob oed a gallu fel rhan o’u cwrs. Bu Ruth yn sôn mwy wrthym:

Cydweithio’n greadigol gyda chymuned Oasis

Mae Canolfan Oasis yn Sblot, Caerdydd, yn cynnig cymorth ac arweiniad i’r rheini sy’n ceisio lloches. Gan eu helpu i integreiddio i’w cymuned leol, mae gan yr elusen hefyd fenter fwyd enfawr, sy’n bwydo tua 200 o bobl y dydd.

Nod y prosiect oedd gweithio gyda’r gymuned yn Oasis i wneud eu neuadd fwyta yn fwy croesawgar. Gofynnodd y staff i ni greu dodrefnu meddal a lliwgar y gellid eu symud ar gyfer eu man amlbwrpas.

Mae ein darlithydd Cynllunio Lucy Hall wedi trefnu prosiectau tebyg gyda myfyrwyr cynllunio yn y gorffennol a phan gynigiodd y cyfle i ni fe wnes i fanteisio arno oherwydd fy mod yn hoffi gweithio gyda thîm ac eisiau gweithio gyda phobl o bob oed a chefndir mewn lle creadigol.

‘Roeddwn i eisiau gweithio ar y prosiect hwn gan fy mod yn chwilio am ffordd i roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned leol, yn ogystal â helpu i addysgu a chyflwyno sgiliau artistig i’r rheini na fyddai efallai â mynediad hawdd atynt.’
Amelia O'TooleMyfyriwr Cynllunio ar gyfer Perfformio

Ni fyddai’r prosiect hwn wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth Helen Moseley-Williams, swyddog Brysbennu ac Integreiddio presennol Oasis a Valentine Gigandet, un o raddedigion CBCDC ac aelod o staff Oasis a’n cefnogodd drwy ein hyfforddiant gwirfoddolwyr a’n sesiynau wythnosol yn Oasis.

Cyd-greu: Rhannu straeon a sgiliau

Nid oedd cynllunio ar gyfer y prosiect hwn yn rhywbeth llinol iawn gan fod ymateb y cyfranogwyr a’r deunyddiau oedd ar gael i ni wedi effeithio ar y gwaith. Roedd y darn olaf a wnaethom yn gydweithrediad enfawr o waith ffoaduriaid, ceiswyr lloches a gwirfoddolwyr ac yn cynnwys cyflenwadau a roddwyd, a gyrchwyd ac a ddaethpwyd i mewn. Treuliom yr wythnosau cynnar buom yn cynllunio gyda’r cyfranogwyr - buont yn tynnu lluniau ac yn creu byrddau syniadau y gwnaethom eu defnyddio i’n hysbrydoli wrth gynllunio’r sesiynau.

Gweithio gyda’r cyfranogwyr oedd rhan orau’r gwaith: doeddech chi byth yn gwybod pwy fyddai’n mynychu o un wythnos i’r llall a pha straeon y byddent yn eu dweud wrthych. Roeddem yn canolbwyntio’n gryf ar gyd-greu a dysgais innau sgiliau newydd ganddynt hwythau hefyd, megis llythrennau Arabeg neu wneud gemwaith.

Gwthio ffiniau eu creadigrwydd

Gan y byddai’r gwaith celf terfynol yn y neuadd fwyta, fe ddechreuom gyda ffocws mawr ar fwyd. Gwnaethom arbrofi â llawer o wahanol fathau o gyfryngau megis paent, clytwaith, ffabrig, beiros, ffa a llysiau. Roedd y cyfranogwyr yn barod ac yn agored iawn i archwilio sawl ffurf ar gelfyddyd, felly gwnaethom geisio gwthio ffiniau eu creadigrwydd.

Wrth i’r wythnosau fynd rhagddynt dechreuom gael cyfranogwyr rheolaidd yn dychwelyd i weithio gyda ni bob wythnos a gwneud gweithgarwch celf dros nifer o sesiynau. Gwnaethom hefyd ddechrau ehangu ein gweithgareddau yn seiliedig ar eu hymateb i’r sesiynau.

Bob wythnos byddai Amelia a minnau’n adolygu llwyddiannau a methiannau’r sesiwn. Er enghraifft, fe wnaethom gynyddu faint o wnïo a wnaethom wrth i ni sylweddoli bod y cyfranogwyr yn mwynhau hynny’n fawr gan ei bod yn sgil mor drosglwyddadwy.

Ar ôl y 12 wythnos o waith cyfunodd Amelia a minnau’r gwaith celf yn dapestrïau a mosäig y gallent eu harddangos yn y neuadd fwyta.

Ymdeimlad o bwrpas cyffredin a pherthyn

Roedd y prosiect cyffredinol yn llwyddiannus iawn ac roedd yr adborth yn rhyfeddol. Nid yn unig y gwnaeth y cyfranogwyr fwynhau’r sesiynau, roeddent hefyd yn falch iawn o ganlyniad eu hymdrechion.

‘Gwnaethom greu tri thapestri hardd ar gyfer yr ystafell fwyta a thrwy’r broses gwnaethom hefyd feithrin cysylltiadau â chleientiaid Oasis yn ogystal â darparu rhywbeth cadarnhaol i fynd â sylw llawer ohonynt.’ – Amelia

‘Fe wnes i wir fwynhau dod ynghyd â phobl, gyda phawb yn creu ar yr un pryd, mae’n helpu gydag ymdeimlad o bwrpas cyffredin a pherthyn’
Gwirfoddolwr
‘Mae’n dda dysgu sgiliau ac am ddiwylliannau gwahanol gyda phobl newydd.’
Cyfranogwr
‘Mae’r gweithgareddau a wnawn gyda chi yn ffordd dda o dreulio amser. Rwy’n hoffi celf a chrefft. Rwy’n cyfarfod â phobl wahanol bob wythnos ac mae’r rhyngweithio yn hwyl.’
Cyfranogwr

Cytunodd Amelia: ‘Roeddem yn ddigon ffodus i ddefnyddio’r cyfle fel astudiaeth arbenigol tuag at ein gradd,’ meddai. ‘Rydw i hefyd wedi dysgu llawer o sgiliau bywyd wrth gynnal y gweithdai hyn, megis dysgu ffyrdd newydd o gyfathrebu, annog cyfranogiad a datblygu sgiliau arwain, sydd nid yn unig yn ddefnyddiol ar gyfer y cwrs, ond unrhyw swyddi a gaf yn y dyfodol.

Gwnaethom greu tri thapestri hardd ar gyfer yr ystafell fwyta a thrwy’r broses gwnaethom hefyd feithrin cysylltiadau â chleientiaid Oasis yn ogystal â darparu rhywbeth cadarnhaol i fynd â sylw llawer ohonynt.’ 

Dyfyniad: ‘Fe wnes i fwynhau fy amser yn Oasis yn fawr. Mae’r cyfle hwn wedi fy ngwneud yn fwy hyderus yn fy ngallu fel cynllunydd ac wedi agor cyfleoedd gyrfa o fewn gwaith cymunedol. Mae’r

hyn rydw i’n ei wybod nawr yn bendant yn rhywbeth rydw i eisiau ei archwilio ymhellach ar ôl graddio.

Dyma ddim ond un o blith y nifer o leoliadau allanol y mae fy nghwrs yn eu cynnig i gael profiad o’r diwydiant cynllunio a’i lu o lwybrau gyrfa.’
Ruth Norwoodmyfyriwr Cynllunio ar gyfer Perfformio

Storïau eraill