Neidio i’r prif gynnwys

Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru

Wedi’i gwreiddio mewn gwerthoedd a rennir ac ymrwymiad i ragoriaeth, cynhwysiant a chyfle, mae’r bartneriaeth hon yn cysylltu ensembles ieuenctid cenedlaethol arloesol Cymru â’i chonservatoire cenedlaethol i greu llwybr pwerus o ddatblygu talent cynnar i yrfaoedd artistig proffesiynol.

Adeiladu llwybrau talent

Bydd CCIC a CBCDC yn parhau i greu llwybrau cliriach i bobl ifanc symud ymlaen o weithgaredd celfyddydau ieuenctid i hyfforddiant a gyrfaoedd proffesiynol.

Trwy gydweithio, byddwn yn:

  • Darparu mentora ac arweiniad i artistiaid sy’n dod i’r amlwg
  • Creu cyfleoedd i bobl ifanc ymgysylltu â hyfforddiant lefel conservatoire
  • Archwilio ensembles a strwythurau cenedlaethol newydd sy’n cyd-fynd â’r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth yng Nghymru

Mae’r llwybrau hyn yn helpu i bontio’r bwlch rhwng profiadau cynnar yn y celfyddydau a’r diwydiant celfyddydau proffesiynol.

Cyfleoedd ledled Cymru

Mae CCIC a CBCDC wedi ymrwymo i sicrhau bod cyfleoedd yn cyrraedd pob rhan o Gymru. Mae CCIC a CBCDC yn helpu i lunio dyfodol cryfach, mwy cynhwysol a mwy bywiog i’r celfyddydau yng Nghymru.

Mae’r bartneriaeth eisoes yn darparu prosiectau cerddoriaeth i bobl ifanc, gan gynnwys chwarae mewn ensemble, canu a gweithdai offerynnol arbenigol. Byddwn yn parhau i ddatblygu gweithgaredd ar draws rhanbarthau yng Nghymru gan gynnwys Gogledd, Canolbarth a Gorllewin Cymru, yn ogystal ag ar gampws Caerdydd CBCDC. Rydym hefyd yn bwriadu i’r bartneriaeth gefnogi pobl ifanc i ymgysylltu ag ystod eang o ffurfiau celf, gan gynnwys cerddoriaeth glasurol, jazz a gwerin, theatr a dawns.

Ynglŷn â Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn grymuso’r genhedlaeth nesaf o gerddorion, actorion, dawnswyr a gwneuthurwyr i adeiladu dyfodol creadigol, hyderus a hael i Gymru. Dyma’r elusen sy’n gyfrifol am ensembles ieuenctid cenedlaethol enwog Cymru ym meysydd theatr, dawns a cherddoriaeth – gydag aelodau o bob sir yng Nghymru. Mae hefyd yn gweithredu fel hyrwyddwr cenedlaethol dros gelfyddydau ieuenctid yng Nghymru, gan eiriol dros y dylai pob person ifanc, waeth beth fo’u cefndir, ethnigrwydd, anabledd neu statws economaidd-gymdeithasol, allu ffynnu yn y celfyddydau.

Wedi’i gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru, Cymru Greadigol ac eraill, mae CCIC yn chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru.


Adran archwilio