Neidio i’r prif gynnwys

Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol Cymru

Rydyn ni’n falch o weithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol Cymru i helpu mwy o bobl ifanc ledled Cymru i ddarganfod, datblygu a rhannu eu talent gerddorol. 

Gyda’n gilydd, rydyn ni’n cysylltu cyfleoedd cerddoriaeth lleol â hyfforddiant o’r radd flaenaf, gan helpu cerddorion ifanc i fagu hyder, datblygu eu sgiliau a gweld llwybrau clir ar gyfer y dyfodol. 

Cefnogi cerddoriaeth i bobl ifanc ledled Cymru

Mae Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol Cymru yn gweithio gyda gwasanaethau cerddoriaeth lleol ac ysgolion i ddarparu addysg gerddoriaeth a chyfleoedd i bobl ifanc ledled y wlad. 

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wedi bod yn bartner yn y gwaith o lunio’r model Gwasanaeth Cerddoriaeth presennol, ac mae cefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru wedi galluogi hynny i dyfu.Ein nod yw adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yn bodoli a, gyda’n gilydd, cryfhau’r cyfleoedd i gerddorion ifanc ar bob cam, o’r profiadau cyntaf o greu cerddoriaeth i hyfforddiant uwch. 

Beth rydyn ni’n ei wneud gyda’n gilydd

Mae ein partneriaeth yn cefnogi amrywiaeth o gyfleoedd sydd wedi’u cynllunio i ysbrydoli a datblygu cerddorion ifanc.  

Diwrnodau Darganfod a gweithdai 
Mae cerddorion ifanc yn gallu archwilio offerynnau newydd, arddulliau cerddorol a chyfleoedd perfformio drwy sesiynau ymarferol gyda staff, myfyrwyr ac artistiaid gwadd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.  

Mynediad at amgylcheddau proffesiynol 
Mae'r digwyddiadau sy’n cael eu cynnal yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn rhoi cyfle i bobl ifanc ymarfer a pherfformio mewn mannau proffesiynol a chwrdd â cherddorion sy’n gweithio.  

Datblygu llwybrau talent 
Rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd i helpu cerddorion ifanc talentog i ddeall y camau nesaf yn eu taith gerddorol, boed hynny drwy ymuno ag ensembles, parhau â hyfforddiant neu archwilio gyrfaoedd ym maes cerddoriaeth.  

Cefnogi athrawon ac arweinwyr cerddoriaeth 
Mae’r bartneriaeth hefyd yn cysylltu arbenigedd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ag addysgwyr cerddoriaeth ledled Cymru, gan helpu i rannu gwybodaeth a chryfhau rhwydweithiau addysg cerddoriaeth.  

Rhan o rwydwaith ehangach

Mae’r bartneriaeth hon yn rhan o rwydwaith ehangach o sefydliadau sy’n cydweithio i gefnogi cerddoriaeth ledled Cymru. Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn cydweithio â phartneriaid gan gynnwys Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ac ensembles proffesiynol blaenllaw fel Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac Opera Cenedlaethol Cymru. 

Drwy gysylltu ysgolion, gwasanaethau cerddoriaeth, sefydliadau ieuenctid ac artistiaid proffesiynol, rydyn ni’n helpu i greu llwybrau cerddorol cryfach ledled Cymru. 

Fel rhan o gynllun Open RWCMD y Coleg, bydd y bartneriaeth gyda Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol Cymru yn parhau i dyfu. Gyda’n gilydd rydyn ni’n edrych ar ffyrdd newydd o ddod â chyfleoedd cerddoriaeth yn nes at gymunedau ledled y wlad a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o gerddorion yng Nghymru.

Gwybodaeth am Wasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol Cymru

Mae Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol Cymru yn fenter sy’n cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru sy’n ceisio sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc ledled Cymru yn gallu cael gafael ar addysg gerddorol o ansawdd uchel a chyfleoedd i gymryd rhan mewn cerddoriaeth, beth bynnag fo’u cefndir neu eu sefyllfa ariannol.

Mae’n rhoi’r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth ar waith drwy weithio gyda gwasanaethau cerddoriaeth awdurdodau lleol, ysgolion a sefydliadau cymunedol i ddarparu gweithgareddau fel chwarae offerynnau, canu, cyfansoddi, perfformio ensemble a chreu cerddoriaeth greadigol i ddysgwyr rhwng tua 3 ac 16 oed.

Mae’r gwasanaeth hefyd yn cefnogi athrawon gydag adnoddau a hyfforddiant (gan gynnwys platfform digidol Charanga Cymru) ac yn cynnal llyfrgell genedlaethol o offerynnau ac offer i ehangu mynediad a chyfranogiad ar draws ysgolion a chymunedau ledled Cymru.

www.gwasanaethcerdd.cymru


Adran archwilio