

Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn gweithio’n agos gyda Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC i roi profiad go iawn i fyfyrwyr o’r diwydiant cerddoriaeth wrth iddyn nhw astudio.
Gyda’n gilydd, rydyn ni’n helpu i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o gerddorion, perfformwyr a gweithwyr proffesiynol ym maes y celfyddydau, ar yr un pryd â chreu mwy o gyfleoedd i bobl ledled Cymru brofi a chymryd rhan mewn cerddoriaeth.
Beth mae’r bartneriaeth yn ei olygu?
Mae’r bartneriaeth hon yn rhoi cyfleoedd strwythuredig i fyfyrwyr ymgysylltu’n uniongyrchol ag ymarfer proffesiynol. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys:
- lleoliadau, cyfnodau preswyl a phrosiectau ar y cyd
- hyfforddi a mentora gan aelodau’r gerddorfa
- cyfleoedd perfformio a phrosiectau ymarferol
- mynediad at ymarferion ac amgylcheddau gwaith
Mae’r profiadau hyn yn cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn ac maen nhw’n rhan o gyrsiau, felly mae myfyrwyr yn graddio gyda sgiliau ymarferol yn ogystal â hyfforddiant artistig cryf.
Beth mae myfyrwyr yn ei ennill
Drwy’r bartneriaeth hon, mae myfyrwyr yn elwa ar y canlynol:
- profiad o’r byd go iawn mewn cerddorfa broffesiynol
- dealltwriaeth glir o sut mae’r diwydiant yn gweithio
- cyfleoedd i fagu hyder, sgiliau a chysylltiadau
Gallwch chi gymryd rhan ym mhopeth o berfformio ac ymarfer i waith allgymorth a lleoliadau rheoli’r celfyddydau.
Sicrhau mynediad at gerddoriaeth
Rhan allweddol o’r bartneriaeth hon yw ymestyn y tu hwnt i’r conservatoire.
Mae'r myfyrwyr yn gweithio gyda’r gerddorfa ar brosiectau allgymorth, cyngherddau teuluol a rhaglenni cymunedol i helpu i ddod â cherddoriaeth fyw i fwy o bobl, gan gynnwys plant a phobl ifanc na fyddai ganddyn nhw fynediad fel arall.
Drwy gysylltu cerddorion proffesiynol â chymunedau ledled Cymru, mae’r bartneriaeth yn helpu i wneud cerddoriaeth yn fwy cynhwysol, gan ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf beth bynnag fo’u cefndir
Ble mae’n arwain
Mae graddedigion yn mynd ymlaen i yrfaoedd ar draws y diwydiannau cerddoriaeth a chreadigol, o gerddorfeydd i sefydliadau celfyddydol a’r tu hwnt.
Gyda’n gilydd mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn:
- cefnogi cerddorion a gweithwyr creadigol proffesiynol y dyfodol
- dod â cherddoriaeth o ansawdd uchel i gynulleidfaoedd ehangach
- helpu i wneud y celfyddydau’n fwy hygyrch a chynhwysol
- cryfhau bywyd diwylliannol Cymru
Gwybodaeth am Gerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC
Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC yw cerddorfa symffoni genedlaethol Cymru ac mae’n ensemble darlledu blaenllaw, gyda hanes sy’n ymestyn dros 90 mlynedd. Wedi’i lleoli yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae’n perfformio’n helaeth ledled Cymru a’r DU ac mae’n cael ei chlywed yn rheolaidd ar lwyfannau’r BBC gan gynnwys Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru.
Fel cerddorfa ddarlledu a sefydliad diwylliannol cenedlaethol, mae BBC NOW yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o hyrwyddo cerddoriaeth Cymru, cefnogi cyfansoddwyr cyfoes, a darparu rhaglen eang o gyngherddau, gwaith addysg ac ymgysylltu â’r gymuned.





