Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Cyrsiau MFA drama yn y DU | Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Ewch â’ch ymarfer creadigol i’r lefel nesaf gyda gradd Meistr mewn Celfyddyd Gain (MFA) yn CBCDC – conservatoire cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd. Mae ein graddau MFA yn sefyll allan yn y DU am eu hyfforddiant arbenigol sy’n canolbwyntio ar y diwydiant gyda chysylltiadau uniongyrchol â’r diwydiannau creadigol.

Byddwch yn astudio mewn carfannau bach a chefnogol, yn gweithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol blaenllaw, ac yn graddio gyda’r sgiliau, y profiad a’r cysylltiadau yn y diwydiant i lansio’ch gyrfa.

Beth yw MFA?

Gradd ôl-raddedig sydd wedi’i seilio ar ymarfer diwydiant yn y byd go iawn yw MFA, neu radd Meistr mewn Celfyddyd Gain. Mae wedi’i chynllunio i’ch helpu i ddyfnhau eich crefft, ehangu eich llais creadigol, a throsglwyddo’n hyderus i’r byd proffesiynol.

Fel cymhwyster a gydnabyddir yn rhyngwladol, gall MFA hefyd agor drysau i addysgu ar lefel prifysgol mewn llawer o wledydd. Mae’n ddelfrydol os ydych chi am arbenigo ar ôl graddio, datblygu eich ymarfer fel artist creadigol ar ddechrau gyrfa, neu ailhyfforddi i fynd â’ch gyrfa i gyfeiriad newydd.

Pam dewis MFA yn CBCDC?

Llwybrau gyrfa – wedi’u cynllunio i’ch paratoi ar gyfer gyrfaoedd cynaliadwy ar draws meysydd theatr, opera, teledu, ffilm a chyfryngau digidol, gan roi’r sgiliau a’r profiad i chi lwyddo mewn diwydiant sy’n newid yn gyflym. 

Cysylltiadau cryf â’r diwydiant – mae cysylltiadau â sefydliadau megis y Royal Shakespeare Company, National Theatre, Bristol Old Vic, Opera Cenedlaethol Cymru, Theatr Sherman a Chanolfan Mileniwm Cymru yn cadw’ch hyfforddiant wedi’i gysylltu’n agos â’r proffesiwn. 

Profiad proffesiynol – mae cyfnodau ar leoliad a chynyrchiadau cyhoeddus wedi’u hadeiladu i bob cwrs gan olygu eich bod yn graddio gyda phrofiad o’r byd go iawn a chredydau proffesiynol ar eich CV. 

Hyfforddiant arbenigol – cyrsiau dwys, seiliedig ar ymarfer a addysgir gan weithwyr proffesiynol profiadol. 

Carfannau bach – amgylchedd cefnogol iawn gyda dosbarthiadau bach, mentora un-i-un a lle i ddatblygu eich dawn artistig unigol. 

Cymuned gydweithredol – cyfleoedd i weithio ar draws disgyblaethau drama a cherddoriaeth, gan adeiladu partneriaethau creadigol ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. 

Canolfan gelfyddydau weithredol – fel conservatoire a chanolfan gelfyddydau genedlaethol Cymru, mae CBCDC yn llwyfannu dros 500 o berfformiadau bob blwyddyn fel rhan o raglen gyhoeddus a gydnabyddir yn rhyngwladol. 

Ein cyrsiau MFA

Gallwch ddewis o bedwar cwrs MFA dwy flynedd o hyd, pob un yn cyfuno hyfforddiant arbenigol â phrofiad proffesiynol

Bywyd yng Nghaerdydd

Yn ogystal â hyfforddi mewn conservatoire o’r radd flaenaf, byddwch wedi’ch lleoli yng Nghaerdydd - prifddinas fywiog gyda sîn greadigol lewyrchus. Yn adnabyddus fel un o ddinasoedd mwyaf cyfeillgar i fyfyrwyr yn y DU, mae’n ddiogel, yn fforddiadwy ac yn hawdd teithio o’i chwmpas, gyda theatrau, mannau ymarfer, gwyliau a chaffis i gyd o fewn cyrraedd hawdd i’r campws. 

Byddwch wedi’ch amgylchynu gan gwmnïau proffesiynol sy’n cynnwys BBC Cymru Wales, Opera Cenedlaethol Cymru, Theatr y Sherman a Theatr Genedlaethol Cymru, ac mae’r ddinas yn ganolfan ar gyfer cynyrchiadau teledu a ffilm mawr sy’n cael eu gwneud ar gyfer cwmnïau megis HBO a Netflix. Mae’r cymysgedd hwn o gyfleoedd ar gyfer y llwyfan a’r sgrîn yn creu amgylchedd deinamig sy’n arbennig o werthfawr i fyfyrwyr MFA sy’n meithrin rhwydweithiau a phrofiad ar draws gwahanol ddiwydiannau. 

Mae Caerdydd hefyd yn lle croesawgar a chynhwysol i fyw – yn ddigon mawr i deimlo’n gyffrous, yn ddigon bach i deimlo fel cartref – gan roi’r rhyddid i chi ganolbwyntio ar eich hyfforddiant a’ch ymarfer creadigol.