MFA mewn CyfarwyddoAstudiwch gyfarwyddo yng nghonservatoire cenedlaethol Cymru. Mae ein MFA mewn Cyfarwyddo yn cynnig cyfuniad unigryw o hyfforddiant trylwyr a phrofiad ymarferol i’ch paratoi ar gyfer gyrfa mewn cyfarwyddo.Rhagor o wybodaeth
MFA mewn Cyfarwyddo SymudByddwch yn gweithio ochr yn ochr ag ymarferwyr blaenllaw i ddysgu sut i addysgu, hyfforddi, cyfarwyddo symud a choreograffu ar gyfer theatr ar draws ystod amrywiol o gyd-destunau a disgyblaethau perfformio.Rhagor o wybodaeth
MFA mewn Hyfforddi Llais, Lleferydd a ThestunByddwch yn meithrin y sgiliau i ddod yn hyfforddwr llais a thafodiaith sy’n barod ar gyfer y diwydiant a fydd yn gallu gweithio ar draws meysydd theatr, teledu, ffilm a chyfryngau digidol, ac mewn sefydliadau hyfforddi actorion.Rhagor o wybodaeth
MFA mewn Ysgrifennu DramaGyda’n cwrs MFA dwy flynedd, byddwch yn trochi eich hun yng ngwybodaeth a chrefft ysgrifennu ar gyfer drama, gan ddatblygu gwaith ar gyfer y theatr, y sgrin, sain a’r cyfryngau digidol.Rhagor o wybodaeth
MMus Arwain Band PresDewch i ennill yr holl sgiliau sydd eu hangen arnoch i ymgymryd â rôl arweinydd bandiau pres yn hyderus, ynghyd â chyfleoedd i arwain drwy gydol eich astudiaethau.Rhagor o wybodaeth
MMus Arwain CerddorfaolMae hyfforddiant un i un arbenigol, profiad arwain ymarferol a chysylltiadau â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant yn rhan ganolog o’r cwrs meistr arloesol hwn.Rhagor o wybodaeth
MMus Arwain CorawlGosodwch y sylfaen ar gyfer gyrfa lwyddiannus gyda’n cwrs sy’n cyfuno cyfleoedd arwain corawl a hyfforddiant llais arbenigol.Rhagor o wybodaeth
MMus CyfansoddiCyfle i archwilio dulliau ac arddulliau cyfansoddi amrywiol, gyda nifer o gyfleoedd i weithio ar ein cynyrchiadau drama a chydweithio â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant.Rhagor o wybodaeth
MMus Cyfansoddwr-PerfformiwrAstudiwch ddau arbenigedd ar y lefel uchaf, gan gyfansoddi gwaith creadigol arloesol ochr yn ochr â hyfforddiant perfformio gyda rhai o ymarferwyr gorau’r diwydiant.Rhagor o wybodaeth
MMus Perfformio CerddorfaolYmunwch â hyfforddiant arbenigol a thrylwyr gyda cherddorion cerddorfaol proffesiynol, ochr yn ochr â chynlluniau mentora a lleoliadau gyda cherddorfeydd cenedlaethol.Rhagor o wybodaeth
MMus Perfformio CerddoriaethDatblygwch yrfa rydych chi’n ei mwynhau gyda’n cwrs sy’n cynnig hyfforddiant arbenigol a nifer o gyfleoedd perfformio i gantorion ac offerynwyr.Rhagor o wybodaeth
MMus Perfformio Chwythbrennau Aml-offerynDysgwch berfformio’n hyderus gydag amrywiaeth o offerynnau chwyth mewn lleoliad theatr gerdd, gydag arbenigwyr yn y diwydiant a cherddorion arbenigol i’ch arwain.Rhagor o wybodaeth
MMus Perfformio OperaGyda’n cwrs dan arweiniad y diwydiant, sy’n cyfuno hyfforddiant arbenigol â chyfleoedd perfformio amrywiol, byddwch yn gwybod sut mae bodloni gofynion cwmnïau opera proffesiynol y dyddiau hyn.Rhagor o wybodaeth
MMus Piano CydweithredolDewch i gael hyfforddiant arbenigol gyda phianyddion proffesiynol wrth i chi weithio ochr yn ochr â phartneriaid cerddorol mewn detholiad amrywiol a chyffrous o berfformiadau ensemble.Rhagor o wybodaeth