Diploma Ôl-raddedig mewn Ymarfer Proffesiynol UwchMae’r rhaglen hon sydd wedi’i theilwra i’r unigolyn, ar gyfer myfyrwyr sy’n chwilio am hyfforddiant terfynol, ychwanegol cyn ymuno â’r proffesiwn o’u dewis.Rhagor o wybodaeth
MA Actio ar gyfer y Llwyfan, Sgrin a RadioCewch lansio eich gyrfa actio drwy hyfforddiant dwys dan arweiniad arbenigwyr a hyfforddiant ymarferol mewn stiwdio a rihyrsal mewn amgylchedd gwaith proffesiynol.Rhagor o wybodaeth
MA Cyfarwyddo OperaMae ein cwrs sy’n cael ei fentora’n llawn yn cynnwys hyfforddiant arbenigol wedi’i deilwra, profiad o gyfarwyddo ein prosiectau operatig a lleoliad yn y diwydiant.Rhagor o wybodaeth
MA Cynllunio ar gyfer PerfformioCyfle i wella eich arbenigedd cynllunio gyda’n cwrs sy’n cynnig hyfforddiant arbenigol a chyfleoedd lleoliad gwaith ar gyfer 10 maes astudio gwahanol.Rhagor o wybodaeth
MA JazzCyfle i hyfforddi ochr yn ochr â rhai o gerddorion jazz gorau’r DU ar y cwrs arloesol hwn sy’n cynnig hyfforddiant un i un, hyfforddiant ensemble a nifer o gyfleoedd i berfformio.Rhagor o wybodaeth
MA Perfformio Opera UwchGyda’n cwrs dan arweiniad y diwydiant, sy’n cyfuno hyfforddiant arbenigol â chyfleoedd perfformio amrywiol, byddwch yn gwybod sut mae bodloni gofynion cwmnïau opera proffesiynol y dyddiau hyn.Rhagor o wybodaeth
MA Rheolaeth yn y CelfyddydauEwch ati i ennill y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen arnoch i gael gyrfa lwyddiannus yn y sector creadigol, ynghyd â dau leoliad gwaith, yn ein cwrs dan arweiniad y diwydiant.Rhagor o wybodaeth
MA Rheoli Llwyfan a DigwyddiadauGyda hyfforddiant gan arbenigwyr yn y diwydiant a phedwar lleoliad gwaith, mae’r cwrs hwn yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio ym myd cynhyrchu ffilmiau, digwyddiadau byw, theatr a theledu.Rhagor o wybodaeth
MA Theatr GerddorolGyda’n cwrs sy’n cyfuno dosbarthiadau actio a dawns â gwersi canu un i un a rolau mewn dau berfformiad cyhoeddus, byddwch yn cwrdd â gofynion y diwydiant y dyddiau hyn.Rhagor o wybodaeth
MMus Arwain Band PresDewch i ennill yr holl sgiliau sydd eu hangen arnoch i ymgymryd â rôl arweinydd bandiau pres yn hyderus, ynghyd â chyfleoedd i arwain drwy gydol eich astudiaethau.Rhagor o wybodaeth
MMus Arwain CerddorfaolMae hyfforddiant un i un arbenigol, profiad arwain ymarferol a chysylltiadau â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant yn rhan ganolog o’r cwrs meistr arloesol hwn.Rhagor o wybodaeth
MMus Arwain CorawlGosodwch y sylfaen ar gyfer gyrfa lwyddiannus gyda’n cwrs sy’n cyfuno cyfleoedd arwain corawl a hyfforddiant llais arbenigol.Rhagor o wybodaeth
MMus CyfansoddiCyfle i archwilio dulliau ac arddulliau cyfansoddi amrywiol, gyda nifer o gyfleoedd i weithio ar ein cynyrchiadau drama a chydweithio â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant.Rhagor o wybodaeth
MMus Cyfansoddwr-PerfformiwrAstudiwch ddau arbenigedd ar y lefel uchaf, gan gyfansoddi gwaith creadigol arloesol ochr yn ochr â hyfforddiant perfformio gyda rhai o ymarferwyr gorau’r diwydiant.Rhagor o wybodaeth
MMus Perfformio CerddorfaolYmunwch â hyfforddiant arbenigol a thrylwyr gyda cherddorion cerddorfaol proffesiynol, ochr yn ochr â chynlluniau mentora a lleoliadau gyda cherddorfeydd cenedlaethol.Rhagor o wybodaeth
MMus Perfformio CerddoriaethDatblygwch yrfa rydych chi’n ei mwynhau gyda’n cwrs sy’n cynnig hyfforddiant arbenigol a nifer o gyfleoedd perfformio i gantorion ac offerynwyr.Rhagor o wybodaeth