Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

MMus Perfformio Hanesyddol

  • Dyfarniad:

    MMus Perfformio Hanesyddol

  • Corff dyfarnu:

    Prifysgol De Cymru

  • Lleoliad astudio:

    Caerdydd (CBCDC a’r Hen Lyfrgell)

  • Dyddiad dechrau:

    22 Medi 2024

  • Hyd:

    2 flynedd llawn amser

  • Cod y cwrs:

    801F - UCAS Conservatoires

Cyflwyniad


Dewch i ddarganfod amrywiaeth eang o arddulliau perfformio, o’r Dadeni i’r 19eg ganrif, yn ein hyfforddiant cynhwysfawr o’r radd flaenaf ar gyfer cantorion ac offerynwyr.

Trosolwg o’r cwrs

Mae ein cwrs meistr mewn perfformio hanesyddol yn cynnig amgylchedd cyffrous i chi gryfhau eich perthynas â’ch crefft, gan gynnig hyfforddiant arbenigol mewn detholiad o arddulliau cerddorol, o’r Dadeni i’r 19eg ganrif.

P’un ai ydych chi’n ganwr neu’n offerynnwr, byddwch yn cymryd rhan mewn hyfforddiant un i un ac yn cael eich mentora gan rai o brif ymarferwyr y diwydiant, yn ogystal â mynychu dosbarthiadau, gweithdai a dosbarthiadau meistr wedi’u teilwra’n arbennig gydag artistiaid rhyngwladol enwog.

Cewch arbenigo yn unrhyw rai o’r meysydd hyn fel rhan o’ch cwrs:

  • Pres
  • Gitâr
  • Telyn
  • Piano
  • Offerynnau taro
  • Llinynnol
  • Llais
  • Chwythbrennau

Wrth hyfforddi gydag offerynnau cyfnod – sy’n cynnwys gweithio gyda harpiscordiau a fortepianos o wahanol gyfnodau – byddwch yn dysgu amrywiaeth o arddulliau hanesyddol, gan ennill gwybodaeth sy’n rhan allweddol o bortffolio sgiliau cerddor hyblyg a chyflawn.

Mae ein cwrs yn hyblyg, sy’n eich galluogi i deilwra eich rhaglen astudio yn unol â’ch diddordebau cerddorol a’ch uchelgais o ran gyrfa. Os ydych chi’n ganwr, byddwch yn cymryd rhan yn ein dosbarthiadau iaith, symud a drama, a bydd yr offerynwyr yn cymryd rhan yn ein dosbarthiadau offerynnol arbenigol, uwch.

Mae cael ymagwedd sy'n dangos ymwybyddiaeth o hanes at amrywiol arddulliau cerddorol yn sgil hanfodol i bob artist sy’n gweithio heddiw. Er y bydd ymchwil a myfyrio yn sail i ddatblygu eich celfyddyd greadigol, byddwch hefyd yn cael cyfleoedd i berfformio a chydweithio y tu allan i’r dosbarth. Gallwch gymryd rhan ym mhopeth, o ddatganiadau unigol i berfformiadau ensemble ar draws y Coleg yn ein cyfleusterau modern.

Pam astudio’r cwrs hwn?

  • Bydd eich hyfforddiant arbenigol yn gynhwysfawr ac yn amrywiol: byddwch yn cael cymysgedd o wersi un i un – sef ‘prif astudiaeth’ – ynghyd â dosbarthiadau perfformio, gweithdai, dosbarthiadau meistr a hyfforddiant.
  • Cewch eich arwain gan arbenigedd Dr Simon Jones, feiolinydd enwog sydd wedi perfformio ac wedi recordio’n rhyngwladol fel arweinydd cerddorfaol a cherddor siambr. Mae tiwtoriaid eich cyrsiau hefyd yn cynnwys rhai o’r perfformwyr mwyaf dylanwadol ac uchel eu parch yn y byd, fel Anneke Scott, Jeremy West, Ross Brown, Katy Bircher, Jonathan Manson a Rachel Podger. Maent yn eich mentora yn ogystal â chynnig cyfleoedd rhwydweithio ac addysg o’r radd flaenaf i chi.
  • Mae gennych chi’r rhyddid i siapio eich modiwlau craidd i gyd-fynd â’ch sgiliau a’ch nodau gyrfa. Mae rhywfaint o hyblygrwydd i'r fformatau asesu mewn rhai modiwlau, er mwyn i chi allu profi beth rydych wedi’i ddysgu mewn ffordd sy’n addas i chi.
  • Byddwch hefyd yn cael gweithio gyda’r artistiaid rhyngwladol enwog sy’n ymweld â’r Coleg fel rhan o’n rhaglen o berfformiadau cyhoeddus.
  • Rydym yn weithgar yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae ein cysylltiadau agos ag amrywiaeth o sefydliadau celfyddydol blaenllaw yn cynnig cyfleoedd i rwydweithio a mentora, sy’n hanfodol er mwyn paratoi ar gyfer gyrfa gerddorol.
  • Mae ein cwrs wedi’i strwythuro i roi llawer o gymorth i chi fel dysgwr unigol, ond mae hefyd yn cynnig cyfleoedd i chi gydweithio â myfyrwyr ar eich cwrs a’r rheini sy’n astudio ar ein cyrsiau drama, gan eich galluogi i ffurfio partneriaethau creadigol a fydd yn para ymhell ar ôl i chi raddio.
  • Bydd hanner eich ail flwyddyn yn canolbwyntio ar ddatblygu prosiectau proffesiynol, sy’n gysylltiedig â phrofiadau yn y byd go iawn. Mae’r meysydd y gallwch ganolbwyntio arnynt yn cynnwys ymchwil, addysgu, cerddoriaeth gymunedol, ymarfer creadigol cydweithredol, cyfansoddi a chelfyddyd ddigidol. Fel rhan o hyn, byddwch yn cwrdd yn rheolaidd â mentoriaid arbenigol, gan eich helpu i ehangu eich rhwydwaith o gysylltiadau yn y diwydiant.
  • Byddwch hefyd yn creu ac yn curadu eich prosiectau perfformio eich hun, sy’n eich galluogi i wneud gwaith ymchwil manylach i feysydd cerddoleg a pherfformio.
  • Gallwch hefyd astudio agweddau eraill ar gelfyddyd gerddorol fel Techneg Alexander, dyblu offerynnau a hyfforddiant uwch mewn cerddoriaeth siambr hanesyddol.

Gwybodaeth arall am y cwrs

‘Mae gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ei stamp unigryw ei hun, ac rydych chi’n teimlo hynny yr eiliad rydych chi’n cerdded i mewn i'r adeilad. Yr hyn sy’n arbennig o drawiadol yw pa mor agored ydyw, ac rydw i’n credu mai’r rheswm am hynny yw ymrwymiad gwirioneddol y staff a’r myfyrwyr i gyfnewid gwybodaeth mewn awyrgylch cefnogol dros ben. Gallwch weld sut byddai'r myfyrwyr yn cario hynny ymlaen i'w bywydau proffesiynol.'
Errollyn WallenCyfansoddwr ac Artist Preswyl CBCDC

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/privacy

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf