Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

MMus Perfformio Chwythbrennau Aml-offeryn

  • Dyfarniad:

    MMus Perfformio Chwythbrennau Aml-offeryn

  • Corff dyfarnu:

    Prifysgol De Cymru

  • Lleoliad astudio:

    Caerdydd (CBCDC a’r Hen Lyfrgell)

  • Dyddiad dechrau:

    22 Medi 2024

  • Hyd:

    2 flynedd llawn amser

  • Cod y cwrs:

    821F - UCAS Conservatoires

Cyflwyniad


Dysgwch berfformio’n hyderus gydag amrywiaeth o offerynnau chwyth mewn lleoliad theatr gerdd, gydag arbenigwyr yn y diwydiant a cherddorion arbenigol i’ch arwain.

Trosolwg o’r cwrs

Mae ein cwrs yn rhoi’r rhyddid i chi ymgolli’n llwyr ym myd theatr gerdd. Mae profiad ymarferol ac addysgu arbenigol yn eich helpu i fagu hyder i berfformio repertoire y West End gyda steil ac awdurdod.

Mae hyfforddiant un i un ar y ffliwt, y clarinét a’r sacsoffon yn sylfaen ar gyfer eich datblygiad fel perfformiwr. Cewch eich addysgu gan arbenigwyr uchel eu parch – sy’n mwynhau gyrfa broffesiynol brysur – a byddwch yn datblygu eich sgiliau artistig a thechnegol ar draws y tri offeryn.

Byddwch hefyd yn cael cyfleoedd ymarfer a pherfformio ensemble amrywiol iawn fel rhan o’r cynyrchiadau theatr sy’n cael eu cynnal yn ystod y flwyddyn academaidd. Gyda hynny daw’r cyfle i chi gael profiad ymarferol a hanfodol i weithio gyda gwahanol gyfarwyddwyr cerddorol proffesiynol.

Mae datblygu eich rhwydwaith o gysylltiadau yn y diwydiant, eich paratoi ar gyfer clyweliadau a gwella eich sgiliau entrepreneuraidd hefyd yn hanfodol i’ch astudiaethau. Byddwch yn cael cyfleoedd i eistedd mewn cynyrchiadau proffesiynol, gan roi cipolwg y tu ôl i’r llenni i chi ar sut mae’r perfformiadau hyn yn gweithio.

Gallwch hefyd fynychu seminarau sy'n edrych ar elfennau allweddol datblygu a chynnal gyrfa bortffolio, gan roi'r sgiliau cyflogadwyedd hanfodol i chi allu dilyn eich llwybr creadigol yn ar ôl graddio.

Pam astudio’r cwrs hwn?

  • Bydd eich hyfforddiant yn cyfuno gwahanol ddulliau a lleoliadau addysgu i roi profiad dysgu cynhwysfawr i chi. Byddwch yn cael gwersi un i un (a elwir yn ‘brif astudiaeth’) ar gyfer y ffliwt, y clarinét a’r sacsoffon. Ond byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn dosbarthiadau perfformio arbenigol, uwch, yn ogystal â sesiynau hyfforddi proffesiynol, gweithdai a gweithgareddau perfformio.
  • Byddwch yn hyfforddi ochr yn ochr â’n rhestr drawiadol o diwtoriaid, sy’n unawdwyr offerynnol a lleisiol adnabyddus ac yn gerddorion siambr mewn amrywiaeth o genres – yn ogystal â phrif chwaraewyr mewn ensembles a cherddorfeydd mawr. Maent yn eich mentora yn ogystal â chynnig cyfleoedd rhwydweithio ac addysg o’r radd flaenaf i chi.
  • Bydd eich dosbarthiadau repertoire yn cael eu harwain gan arbenigwyr theatr gerdd, sy’n gallu darparu arweiniad proffesiynol a gwybodaeth am y diwydiant.
  • Mae ein hamrywiaeth eang o fodiwlau ar draws gwahanol adrannau’r Coleg yn golygu y gallwch lunio eich astudiaeth i gyd-fynd â’ch diddordebau, eich cryfderau a’ch uchelgeisiau o ran gyrfa. Gyda rhai modiwlau, byddwch yn cael rhywfaint o hyblygrwydd o ran fformat yr asesu, a fydd yn eich galluogi i brofi’r hyn rydych wedi’i ddysgu mewn ffordd sy’n addas i chi.
  • Mae gennym gysylltiadau agos â sefydliadau celfyddydol blaenllaw, sy’n rhoi cyfleoedd i chi rwydweithio a datblygu eich rhestr o gysylltiadau yn y diwydiant – sy’n gallu bod yn hanfodol i sefydlu gyrfa bortffolio lwyddiannus.
  • Drwy gydol y flwyddyn academaidd, gallwch gymryd rhan mewn ymarferion ensemble theatr gerdd a chyfleoedd perfformio. Bydd y rhain yn eich galluogi i ymarfer y grefft o berfformio, datblygu eich sgiliau a’ch stamina a datblygu eich ymwybyddiaeth o brotocolau proffesiynol.
  • Byddwch hefyd yn cael cyfleoedd i gydweithio â myfyrwyr ar eich cwrs – a’r rheini sy’n astudio ar ein cyrsiau drama hefyd. Mae hyn yn caniatáu i chi ehangu eich gwybodaeth mewn meysydd llai adnabyddus, yn ogystal â meithrin partneriaethau creadigol sy’n gallu para am oes.
  • Byddwch hefyd yn cael cyfle i greu a churadu eich prosiectau perfformio eich hun, gan ganiatáu i chi gynnal ymchwil manylach i feysydd sydd o ddiddordeb i chi ac sy’n cyd-fynd â’ch uchelgeisiau o ran gyrfa.
  • Byddwch yn gallu datblygu eich cysylltiadau â phobl allweddol yn y diwydiant, gan gael cyngor ar ddatblygu eich gyrfa a chael gwaith. Cewch eich annog i fynd ati i chwilio am waith proffesiynol drwy glyweliadau, eistedd mewn cynyrchiadau a rhwydweithio â chyfarwyddwyr cerddorol.
  • Gallwch hefyd gymryd rhan yn ein dosbarthiadau meistr gydag artistiaid adnabyddus sy’n ymweld â’r Coleg bob blwyddyn fel rhan o’n rhaglen berfformio. Gallant gynnig arweiniad arbenigol i’ch helpu i fynd â’ch celfyddyd i’r lefel nesaf.
  • Mewn dosbarthiadau arbenigol, gallwch weithio ochr yn ochr â myfyrwyr israddedig sy’n chwarae mwy nag un offeryn chwythbrennau. Yno, byddwch yn canolbwyntio ar repertoire o sioeau allweddol, yn perfformio fel ensemble ac yn ymestyn eich ymwybyddiaeth o arddull i ddatblygu eich gwytnwch ar draws amrywiaeth o ffliwtiau, clarinetau a sacsoffonau.
  • Byddwch yn cael profiad hanfodol o weithio gyda gwahanol gyfarwyddwyr cerdd fel rhan o ensembles y perfformiadau theatr i fyfyrwyr rydym yn eu cynnal yn ystod y flwyddyn academaidd.
  • Bydd hanner eich ail flwyddyn yn canolbwyntio ar ddatblygu prosiectau proffesiynol, sy’n gysylltiedig â phrofiadau yn y byd go iawn. Mae’r meysydd y gallwch ganolbwyntio arnynt yn cynnwys ymchwil, addysgu, cerddoriaeth gymunedol, ymarfer creadigol cydweithredol, cyfansoddi a chelfyddyd ddigidol.
  • Mae rhan o’r gwaith hwn yn cynnwys cwrdd yn rheolaidd â mentor arbenigol, gan eich galluogi i ehangu eich rhwydwaith o gysylltiadau yn y diwydiant.
  • Gallwch gymryd rhan mewn seminarau sy’n edrych yn fanwl ar brif elfennau dechrau – a chynnal – gyrfa bortffolio lwyddiannus. Byddant yn ymdrin â rhwydweithio, treth a chyllid, ceisiadau am gyllid, cyfryngau cymdeithasol a sefydlu eich hun fel cerddor annibynnol.

Gwybodaeth arall am y cwrs

‘Mae Cymru yn lle mor greadigol sy’n gweld y celfyddydau fel rhywbeth i bawb gymryd rhan ynddo. Mae’r ethos hwnnw’n rhan o’r Coleg ac yn ei wneud yn unigryw.’
Errollyn WallenCyfansoddwr ac Artist Preswyl CBCDC

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/privacy

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf