Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

BMus (Anrh) Jazz

  • Dyfarniad:

    BMus (Anrh) Jazz

  • Corff dyfarnu:

    Prifysgol De Cymru

  • Lleoliad astudio:

    Caerdydd (CBCDC a’r Hen Lyfrgell)

  • Dyddiad dechrau:

    22 Medi 2024

  • Hyd:

    4 blynedd llawn amser

  • Cod y cwrs:

    810F - UCAS Conservatoires

Cyflwyniad


Mae perfformio, cydweithio a chyfansoddi wrth galon ein hyfforddiant jazz proffesiynol, lle byddwch yn cael yr holl sgiliau sydd eu hangen arnoch am yrfa gerddorol.

Trosolwg o’r cwrs

Mae’r rhaglen hon yn cynnwys nifer o gydrannau nodweddiadol ein cwrs BMus blaenllaw, ac mae’n cynnig modiwlau arbenigol ar gyfer y myfyrwyr hynny sy’n dymuno dilyn gyrfa broffesiynol mewn jazz.

Wrth hyfforddi ochr yn ochr â rhai o gerddorion jazz gorau’r DU, byddwch yn cael cyfle i berfformio a chydweithio â myfyrwyr ar eich cwrs a’r rheini o adrannau eraill ar draws y Coleg. 

Mae’r cwrs yn cael ei ysbrydoli gan anghenion newidiol y perfformiwr a’r cyfansoddwr jazz, ac mae’n trafod y prif ddisgyblaethau perfformio sy'n gysylltiedig â’r genre: y llais, offerynnau a chyfansoddi.

Cewch astudio unrhyw rai o’r offerynnau hyn fel rhan o’ch cwrs:

  • Bas
  • Drymiau
  • Ffliwt
  • Gitâr
  • Piano
  • Sacsoffon
  • Trombôn
  • Utgorn
  • Llais

Drwy astudio mewn grwpiau bach, byddwch yn dod i ddeall hanes ac athroniaeth jazz yn dda, yn ogystal ag archwilio’r repertoire mewn amrywiaeth eang o genres ac is-genres.

Chwarae mewn ensemble fydd un o’r rhannau pwysicaf yn eich hyfforddiant. Byddwch yn perfformio o flaen cynulleidfaoedd mewn amryw o gigiau a gynhelir ar draws y Coleg - neu fel rhan o sîn jazz lewyrchus Caerdydd.

Bydd yr holl elfennau hyn, yn ogystal â’r gwaith rhwydweithio a’r lleoliadau â rhai o sefydliadau uchaf eu parch yn y busnes, yn gosod y sylfaen ar gyfer gyrfa lwyddiannus a hir yn y diwydiant cerddoriaeth heddiw.

Pam astudio’r cwrs hwn?

  • O’r diwrnod cyntaf un, byddwch yn gweithio gyda thîm o diwtoriaid sy’n canolbwyntio ar eich helpu i fod y cerddor gorau posibl. Gyda’r gwersi un i un a grŵp hyn - yr hyn rydym yn ei alw’n ‘brif astudiaeth’ - gallwch archwilio bob math o wahanol arbenigeddau, dulliau a thechnegau, gan roi’r hyder i chi ddod o hyd i’ch llais fel artist a mynd ar drywydd y llwybr gyrfa o'ch dewis.
  • Er mwyn eich datblygu’n gerddor arloesol, amryddawn a chyflogadwy, mae eich prif astudiaeth yn cynnwys gwahanol fathau o hyfforddiant. Mae’n cynnwys dosbarthiadau perfformio, rihyrsals ensemble, dosbarthiadau ymarferol, gweithdai, sesiynau mewn stiwdio, darlithoedd, seminarau, prosiectau grŵp a sawl cyfle i gymryd rhan mewn profiad gwaith.
  • Mae ein rhestr drawiadol o diwtoriaid yn cynnwys rhai o artistiaid jazz mwyaf blaenllaw y DU, sydd i gyd yn gyfansoddwyr jazz cyfoes ac yn offerynwyr/cantorion adnabyddus. Maent yn cynnig addysg unigol o'r radd flaenaf i chi, yn ogystal â hyfforddiant ensemble, addysg mewn grŵp, mentoriaeth a chyfleoedd i rwydweithio.
  • Gallech ymuno â chydweithrediadau llai, perfformio mewn band mawr, canu mewn côr jazz neu weithio gyda myfyrwyr ar gynhyrchiad drama neu theatr gerdd. Bob wythnos, gallwch fod yn rhan o’r gwaith cynllunio, cyflwyno a pherfformio ar gyfer y cyhoedd yn ein clwb jazz sy’n cael ei arwain gan ein myfyrwyr, JazzTime, i ddatblygu eich sgiliau entrepreneuraidd a rhannu eich gwaith â chynulleidfaoedd newydd.
  • Asesir eich perfformiad ar ddiwedd blwyddyn pan fyddwch yn cael profiad perfformio proffesiynol go iawn yn ein gwyl jazz flynyddol, sy’n cynnig y cyfle i chi berfformio ar lwyfan proffesiynol.
  • Er mwyn eich helpu i ddatblygu fel cerddor, rydym wedi cynnwys llawer o asesu yn eich cwrs. Mae dod i arfer â thrafod eich datblygiad yn barhaus yn hollbwysig i’ch twf fel artist.
  • Byddwch hefyd yn datblygu ymwybyddiaeth o’r tueddiadau sy’n datblygu a’r cyfryngau newydd yn y diwydiant. Gallwch hefyd ddysgu mwy am Dechneg Alexander, bioleg ar gyfer cerddorion, cerddoriaeth ar gyfer y theatr, cyfansoddi a threfnu a recordio sain.
  • Bydd gennych yr opsiwn i astudio dramor mewn conservatoire partner, a fydd yn agor y drws at fyd cwbl newydd i chi o gyfleoedd rhwydweithio, cydweithio a pherfformio.
  • Er mwyn eich helpu i ddysgu sgiliau cyflogadwyedd - gyda’r nod yn y pen draw o ddatblygu gyrfa ar ôl i chi raddio - rydym yn cynnig gweithgareddau datblygu proffesiynol, sgyrsiau ac arweiniad arbenigol bob tymor. Rydym hefyd yn eich annog i greu eich perfformiadau byw eich hunain, gan roi ffordd arall i chi ennill sgiliau entrepreneuraidd hanfodol.
  • Y tu allan i’r Coleg, byddwch hefyd yn cael y cyfle i weithio gyda chymunedau lleol, mor amrywiol â pherfformio yn rhai o glybiau jazz Caerdydd a hwyluso gweithdai mewn ysgolion lleol.

Geirdaon

'Mae’r cwrs hwn yn datblygu’n gyson mewn ffordd sy’n fuddiol iawn i fyfyrwyr sydd eisiau cael y gorau o’u chwarae. Gan weithio gyda cherddorion jazz blaenllaw yn y DU, mae’n gwrs sy’n rhoi’n ddi-baid.'
Cameron Saint
‘Mae fy nghyfnod yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wedi datgelu llawer amdana i fy hun o ran yr hyn yr hoffwn ei gael o yrfa yn y diwydiant modern. Mae cael y gofod i ddysgu gan gyd-gerddorion sydd ar frig y sîn gerddoriaeth ym Mhrydain ac Ewrop, ynghyd â chefnogaeth cyd-fyfyrwyr, wedi bod yn amhrisiadwy o ran fy natblygiad unigol – nid yn unig fel gweithiwr proffesiynol, ond hefyd fel ffrind a mentor.’
Sam Green
‘Mae Caerdydd yn lle gwych i astudio Jazz, gyda chymuned glos a chyfleoedd gwych o ran gigs. Mae’r cwrs BMus Jazz yn groesawgar ac yn gefnogol iawn o brofiadau a chwaeth gerddorol pawb. Mae’r maes llafur yn cynnwys ystod eang o genres i’w hastudio drwy gydol y pedair blynedd, sy’n golygu eich bod yn gadael gyda gwybodaeth helaeth am Jazz ac arddulliau eraill tebyg.’
Antigone Blackwell
'Rydw i’n ddiolchgar iawn am y cymorth, y ddealltwriaeth a’r anogaeth a gefais yn astudio yn y Coleg Cerdd Brenhinol. Arweiniodd fy ymgais gyntaf i ysgrifennu ar gyfer band mawr at ennill Gwobr Trefnydd Jazz Eddie Harvey – sy’n brawf o arbenigedd ac anogaeth fy nhiwtoriaid.'
Luke Harney
'Mae Cymru yn lle mor greadigol sy’n gweld y celfyddydau fel rhywbeth i bawb gymryd rhan ynddo. Mae’r ethos hwnnw’n rhan o’r Coleg ac yn ei wneud yn unigryw.’
Errollyn WallenCyfansoddwr ac Artist Preswyl CBCDC

Gwybodaeth arall am y cwrs

Cyflwyniad i'r adran Jazz gyda Phennaeth yr Adran, Andrew Bain

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/privacy

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Allow Unistats content?

Lorem ipsum doler sit amet Unistats seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf