Neidio i’r prif gynnwys

Pres

Cewch brofiad hyfforddiant dihafal, ynghyd â chyfleoedd perfformio a chydweithio gyda’ch cydfyfyrwyr a rhai o gerddorion pres gorau’r byd.

Mae capsiynau ar gyfer y fideo hwn ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Pam astudio pres yn CBCDC?

  • Byddwch yn eich herio eich hun drwy ehangu eich golwg ar y byd pres. Byddwch yn cymryd rhan mewn llu o gyfleoedd rihyrsio a pherfformio - cyngherddau yn amrywio o gerddoriaeth ddawns y dadeni sy'n cael ei chwarae ar sackbuts a chorneti i gyfansoddiadau avant-garde gan ddefnyddio technegau cyfoes.
  • Cewch gyfle i brofi unrhyw beth a phopeth – boed hynny’n jazz, cerddoriaeth gynnar, therapi cerddoriaeth, allgymorth, trefnu, arwain a llawer mwy. Rydym yma i’ch helpu i wneud penderfyniadau gwybodus a’ch paratoi ar gyfer gyrfa gerddorol ar ôl i chi raddio.
  • Byddwch yn cael eich haddysgu gan gerddorion blaenllaw a ddaw yn bennaf o ddwy gerddorfa broffesiynol Caerdydd, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac Opera Cenedlaethol Cymru.
  • Cewch gyfle i gael clyweliad ar gyfer cynlluniau lleoliad – ar lefel BMus ac MMus – ar gyfer y ddwy gerddorfa broffesiynol uchod (gyda rhai o’n myfyrwyr yn cael eu galw i chwarae pan nad yw eu chwaraewyr rheolaidd ar gael, rhywbeth rydym yn ei gefnogi’n llwyr)
  • Cewch gyfleoedd i gyfranogi mewn rhaglen brysur o ddosbarthiadau meistr sy'n cael eu rhoi gan berfformwyr ac ensembles rhyngwladol blaenllaw. Yn y gorffennol rydym wedi croesawu Ben Goldscheider a Katy Woolley ar y corn Ffrengig, Peter Moore ar y trombôn, Reginald Chapman ar y trombôn bas, Ben Thomson a Sergio Carolino ar y tiwba a Bones Apart, y pedwarawd trombôn o fenywod yn unig.
  • Mae cydweithio yn allweddol i’ch hyfforddiant ac yn elfen arbennig o’n holl raglenni. Cewch nifer fawr o gyfleoedd i weithio gyda cherddorion eraill ar eich cwrs, drwy’r adran gerddoriaeth yn gyfan ac ar draws y Coleg hefyd. Felly, gallwch arddangos eich gwaith yn ein cyfres gyhoeddus brysur o opera, cyngherddau cerddorfaol, theatr gerddorol a drama gwobrwyedig.

Oriel


Archwilio’r adran hon

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf